Proffilau Myfyrwyr

Fe wnaethom ni ofyn i rai o'n graddedigion am eu cynlluniau ar ôl graddio a'u hatgofion o'n cyrsiau:

Aled Wyn Thomas Graduate profileAled Wyn Thomas - BSc Mathemateg

PricewaterhouseCoopers

Graddiais o Brifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2013 ar ôl ennill Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Mathemateg. Un o’r prif resymau y dewisiais astudio Mathemateg oedd y ffaith fod cael gradd mor aml-bwrpas yn eich galluogi chi i ddilyn ystod o yrfaoedd, megis peirianneg, addysgu neu weithio ym maes cyllid, i enwi ond ychydig. Un brif fantais o’r radd mewn Mathemateg yn Aberystwyth yw’r ffaith fod un o fodiwlau’r flwyddyn gyntaf yn ymwneud â chreu CV a llythyr cais am swydd. Ar y pryd, nid oeddem wedi cwblhau ein hastudiaethau blwyddyn gyntaf ac felly heb ystyried materion o’r fath. Ond, bu hyn yn amhrisiadwy yn y pen draw oherwydd wedi cyrraedd ein trydedd flwyddyn yr oedd y sylfeini angenrheidiol wedi’u gosod er mwyn i ni allu ymgeisio’n llwyddiannus am swyddi. Rydw i’n siŵr mai dyma un o’r rhesymau y llwyddais i gael cynnig lle gan y cwmni gwasanaethau proffesiynol PwC (PricewaterhouseCoopers) ar eu cynllun aswiriant i raddedigion. Mae Mathemateg yn radd heriol, ond sydd hefyd yn rhoi boddhad pan fod problemau a ymddengys yn amhosib i ddechrau gael eu datrys drwy ddadansoddi rhesymegol. Mae darlithwyr yr Adran yn darparu hyfforddiant ardderchog ac yn cynnig polisi drws agored i unrhyw fyfyriwr sydd angen cymorth neu gefnogaeth. Maent yn llwyddo i sicrhau cydbwysedd perffaith rhwng cymorth a datblygiad, drwy annog myfyrwyr i ddatrys problemau mewn modd resymegol a rhesymol, cyn cynnig cymorth pellach, os oes angen. Mae hyn eisoes wedi bod yn fuddiol i mi yn y gweithle, gan fod fy nghyd-fyfyrwyr Mathemateg a minnau yn sefyll ben ac ysgwydd uwchben eraill oherwydd ein gallu i feddwl mewn modd resymegol ac felly datrys problemau yn effeithlon. Gallaf ond ddiolch o waelod calon i holl staff yr Adran am eu cefnogaeth diflino yn ystod y tair blynedd – gwnes i wir fwynhau bob eiliad!

 

Am fwy o wybodaeth, ewch i adran Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol.