Gwybodaeth treth o fewn cwmnïau: cyllido ymchwil newydd

Yr Athro Kevin Holland

Yr Athro Kevin Holland

04 Gorffennaf 2006

Mae'r Athro Kevin Holland o Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn arwain astudiaeth o'r modd mae cwmnïoedd yn datblygu ac yn defnyddio gwybodaeth am dreth. Cyllidwyd y gwaith gan Gymdeithas Y Cyfrifyddion Ardystiedig Siartredig (Association of Chartered Certified Accountants (ACCA)).

Nod y cynllun yw darparu argymhellion ymarferol er mwyn gwella’r modd y mae gwybodaeth am newidiadau mewn polisi trethi yn cael ei drosglwydd i’r unigolion perthnasol o fewn sefydliadau heb achosi costau cydymffurfio ychwanegol. Disgwylir i’r argymhellion fod o bwys i gywmnïoedd ac asiantaethau’r llywodraeth.

Bydd yr Athro Holland, mewn cydweithrediad â’r Athro John Hasseldine o Brifysgol Nottingham, yn edrych yn benodol ar sut mae cwmnïoedd yn llwyddo i gadw llygad ar y newidiadau aml i arferion a chyfraith treth ac yn dosbarthu’r wybodaeth ymysg y bobl sydd yn gwneud penderfyniadau.

“Yn aml iawn mae’r unigolion yma wedi’u lleoli tu allan i’r adrannau cyllid” dywedodd. “Er engraifft mae datblygiadau diweddar mewn trethi wedi eu cynllunio i ddylanwadu ar benderfyniadau mewn meysydd amrywiol megis ymchwil a datblygu, cyflogau a phecynnau budd, tra bod rheolai treth sydd wedi bod mewn bodolaeth ers cyfnod hirach yn gallu dylanwadu ar strwythyr asedau, ble i gynhyrchu a phenderfyniadau yn ymwneud â ffurf sefydliad. O’r herwydd er mwyn rheoli treth yn effeithiol mae’n ofynnol i wybodaeth am dreth gael ei ddosbarthu ar draws cwmnïoedd mewn modd sydd yn hysbysu’r bobl sydd yn gwneud y penderfyniadau heb lesteirio ar ddyfeisgarwch.”

Bydd yr astudiaeth yn defnyddio amryw o ddulliau ymchwil, gan gynnwys cyfres o gyfweliadau gyda cwmnïoedd, ymgynghorwyr treth ac eraill sydd â diddordeb yn y maes. Byddant yn cyfweld unigolion o wahanol feysydd gweithredol; trethiant, rheolaeth adnoddau dynol ac ymchwil a datblygu. O fewn pob cwmni maent yn disgwyl y bydd tri chyfweliad awr yr un yn ddigonol, er y bydd yr union wybodaeth yn amrywio o gwmni i gwmni ac yn adlewyrchu y strwythyr mewnol.

Mae’r ymchwilwyr yn awyddus i gasglu barn ystod eang o gwmnïau gan gynnwys cwmnïau a restrir ar y farchnad stoc a rhai bach a chanolig, ym mha bynnag gategori y maent. Bydd y trefniadau cyfrinachedd arferol yn cael eu dilyn er mwyn sicrhau na fydd modd adnabod yr unigolion sydd wedi cyfrannu. Dylai cwmnïoedd sydd eisiau cymryd rhan yn y broses gyfweld neu sydd am fwy o wybodaeth am yr astudiaeth gysylltu â Kevin Holland ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth neu John Hasseldine, Prifysgol Nottingham.