Urddo cyn fyfyriwr

Vernon Morgan

Vernon Morgan

17 Gorffennaf 2006

Dydd Llun 17 Gorffenaf 2006
YR ATHRO VERNON MORGAN

BSc (Cymru), PhD (Cantab),FREng, FInstP, FIEE

Cyflwynir gan yr Athro Neville Greaves

Barchus Lywydd, Mae'n fraint ac yn bleser gennyf gyflwyno yr Athro Vernon Morgan yn gymrawd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Rydym yn byw yn yr Oes Technoleg – ac yn cael ein temtio gan ffoniau poced, y rhyngrwyd band-eang, camerâu fideo, GPS, fideoddisgiau, ei-podiaid, gemau cyfrifiadurol, awyrdeithio rhad, y popty ping, a rhith-wirionedd hyd yn oed – oherwydd dyma beth rydym eisiau, gan dderbyn y bydd y pethau rydym am eu cael nawr yn troi yn bethau y bydd eu hangen arnom yn y pendraw. Wrth wraidd y rhestr hon o bethau y mae'n “rhaid” inni eu cael yw’r beirianneg hanfodol honno a elwir yn ‘electronig’ erbyn hyn, ac a oedd yn ‘drydanol’ ar un adeg. Mae’r Athro Vernon Morgan ymhlith peirianwyr electronig mwyaf enwog Cymru. Ar ddechrau ei yrfa roedd gan setiau radio a theledu falfiau, gwrthyddion, cynwysorau, a thiwbiau pelydrau catod, ac mae ef wedi gwneud cyfraniadau creadigol i’r chwyldro technolegol sydd wedi disodli cydrannau trydanol unigol â’r cylchedau electronig cyfannol sy’n rhoi 100 miliwn o ddyfeisiadau ar un ysglodyn silicon – peth bach y gallwch ei golli yn hawdd pe baech yn ei ollwng yn eich car heddiw. Ac, a dweud y gwir, efallai y byddwch yn awyddus i’w golli er mwyn cael y dechnoleg G-Beit sy’n prysur nesáu. Mae darfodiad, sef hen dechnoleg yn darfod amdani, yn ysbardun economaidd rhyfedd, ond hanfodol. Mae’n debyg i’r doli Rwsiaidd; o fewn pob ffigur fe gewch y ffigurau blaenorol. Os ewch yn ôl drwy ddol Rwsiaidd Peirianneg Electronig fe ddewch o hyd i’r transistor germaniwm gwreiddiol, y falf thermionig sydd wedi’i daflu i’r neilltu bellach ac, y tu mewn i nhwythau, fe gewch gysyniad y lifer – i switsio, dethol, cynyddu, ailadeiladu er gwell – mewn byr o eiriau, athrylith peirianneg. Ar y dechrau, darnau o bren a cholyn oedd liferi neu drosolion, wedi’u mesur â bysedd a breichiau, ‘amcan llygad a gwaith pen bys’, ond erbyn hyn mae peirianneg yn defnyddio sypiau o electronau a chwanta o oleuni sy’n cynrychioli rhifau – y digidol yn disodli’r digidau.

Sut bynnag y maen nhw’n gwerthu technoleg inni, nid hud a lledrith mohoni, ond rhywbeth hollol ymarferol. Mae’n dod o waith dyfal, y gwaith caled sy’n deillio o ymchwil manwl er mwyn asesu a gwella deunyddiau, ac wedyn i wneud y cynnyrch am y pris iawn. Gan fod Vernon Morgan yno ar gychwyn cyntaf y chwyldro electronig, mae wedi gweld y cwbl, ‘gan wneud cyfraniadau hollbwysig i dechnoleg lled-ddargludyddion, gan fynd â phethau ymlaen i ddyfeisiadau diwydiannol’ – dyna eiriau ei enwebiad pan gafodd ei ethol i Academi Frenhinol Peirianneg ym 1996 ac mae hynny’n rhoi crynodeb da o’i yrfa academaidd, a ddechreuodd yma yn Aberystwyth yn 1960. Yn yr Hen Goleg ger y lli y deuchreuodd, ac roedd yn rhan o’r grŵp cyntaf o fyfyrwyr Ffiseg yn eu Hail Flwyddyn i ddod i adeilad gwobrwyedig y Gwyddorau Ffisegol yma ar gampws Pen-glais. Dyna oedd cartref y “gwyddorau caled” ar y pryd – ac yno mae’n dal i fod. Ar un adeg dyna oedd sylfaen “gwyniasedd technoleg”, a drodd erbyn hyn yn “ddisgyblaethau strategol”, sef y disgyblaethau y mae’r DU yn eu cydnabod fel rhan hanfodol o’r ateb i heriau globaleiddio. Dyna dro mawr ar fyd ers byd yr israddedigion yn Aberystwyth yn y 60au, heb yr un trên yn rhedeg ar y Sul, a heb yr un tafarn ar agor chwaith – ddim yn swyddogol, fodd bynnag. Rwy’n gwybod eich bod chi, Vernon, yn cofio’r amser hwnnw fel amser i hwylio a cherdded ar benwythnosau, ac i astudio o ddydd Llun i ddydd Gwener ar gampws sy’n dal i fod ymhlith y rhai mwyaf prydferth yng ngwledydd Prydain. Yma yn Aberystwyth y gwnaethoch gwrdd â’ch gwraig Jean a oedd yn astudio Hanes ac Addysg – gwrthgyferbyniad braf i Ffiseg, rhywbeth rwyf innau’n ei wybod hefyd.  Yma hefyd oedd man cychwyn eich ymrwymiad i weithgarwch eciwmenaidd, o’r Gymdeithas Gatholig lle y buoch yn gadeirydd, yn arwain yn y pendraw i Groes y Pab a gawsoch oddi wrth y diweddar Bab Ioan Paul III yn 2004, am ‘Wasanaeth o fri i Addysg Uwch’ – disgrifiad tra gwahanol i’r un a gawsoch gan Academi Frenhinol Peirianneg, ond fe fentrwn i mai dyna’r anrhydedd fu’n cyfwrdd yn eich calon chi. 

O Aberystwyth aethoch i Gaer-grawnt a labordy Cavendish, sef y labordai gwych, os braidd yn anarferol, yn Free School Lane. Yno gosododd Maxwell sylfeini Electromagneteg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yno holltodd Rutherford yr atom yn y 1930au, ac yno, yn y 1960au, roedd gwaith yn dechrau ar lled-ddargludyddion newydd yn y maes newydd Ffiseg a Chemeg Solidau – grŵp yr ymunais innau ag ef ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach i weithio ar arsenig di-ffurf. Yn wir, mae un o’n myfyrwyr MPhys, sy’n graddio heddiw, yn mynd i gychwyn ar ei ddoethuriaeth yno y mis Medi nesaf. Ac nawr rwy’n dechrau hel atgofion – y mewnplannwr ïonau (y tu ôl i swyddfa Abe Yoffe), y lloriau parquet afreolaidd, a’r ffordd ffwrdd-â-hi o ddefnyddio halogenau (rhywbeth na fyddai’n bodloni rheoliadau Iechyd a Diogelwch heddiw), partïon Nadolig Abe, lle enillsoch fri mawr drwy yfed llathen o gwrw mewn 12.2 eiliad (crefft  a fagwyd yn ystod eich penwythnosau yn Aberystwyth, mae’n rhaid). Daeth Vernon Morgan wedyn yn Gymrodyr Prifysgol Cymru yng Nghaer-grawnt, a chafodd ef a Jean y fraint o fyw yng Ngholeg Newnam, lle bu’r Rutherford mawr ei hun yn byw hanner canrif ynghynt.

Ar ôl Caer-grawnt aeth i Harwell a Chalk River, sef labordai niwclear cenedlaethol y DU a Chanada. Defnyddiaf y gair ‘niwclear’ er mwyn helpu i adfer ei enw da, ond dyna oedd y labordai lle aeth mewnplannu ïonau yn waith o bwys. Roedd Vernon yn cyflymu protonau a gronynnau alffa drwy miliynau o foltiau, gan fesur i ba raddau yr oeddynt yn gwasgaru yn y cyfeiriad arall, sef yr hen a elwir yn ôl-wasgaru Rutherford. I beth roedd hynny’n dda? Wel, dyna’r arbrawf i weld lle’r oedd diffygion atomig yng nghrisialau lled-ddargludyddion. Heb ddeall gwyddoniaeth y diffygion, ni fyddai modd cael y rheolaeth anhygoel ar nodweddion lled-ddargludyddion sydd wedi arwain at y dechnoleg rydym i gyd yn dechrau dibynnu arni. Symudodd y Morganiaid o Chalk River, Ontario, i Leeds lle cafodd Vernon ddarlithyddiaeth ym 1970, gan groesi afon ddiadlam Rwbicon o Ffiseg i Beirianneg. Erbyn 1978 roedd yn Athro Ymweld ym Mhrifysgol Cornell ac ym 1992 daeth yn Athro Meicro-electroneg yn Ysgol Beirianneg Caerdydd. 

Dros y 35 mlynedd diwethaf bu Vernon Morgan yn cymhwyso ffiseg lled-ddargludyddion i ddyfeisiadau meicro-don a optoelectronig ac i’r cylchedau cyfannol a ddaeth yn gydrannau gweithredol yn y dechnoleg electronig sydd ohoni. Mae wedi ymddiddori yn enwedig mewn deunydd o’r enw galiwm arsenid. Nid yw’n bodloni ar ‘niwclear’, mae’n rhaid iddo gofleidio ‘arsenig’ hefyd er, rhaid dweud, deunydd du disglair diddrwg yw’r arsenig hwn, ac mae ganddo nodweddion electronig anhygoel. Wedi’u cyfuno â galiwm, indiwm a ffosfforws, cyfansoddion arsenig fydd lled-ddargludyddion y dyfodol, yn gyflymach na silicon ac mae ganddynt nodweddion optegol y mae modd eu haddasu i gyd-fynd â sbectrwm yr haul, hyd yn oed – sy’n golygu celloedd ynni haul anhygoel o effeithlon. 

Felly, o electroneg i optoelectroneg, o MOSFETS i ffotofoltäeg, rydych chi a’r grwpiau rydych wedi’u hysbrydoli wedi chwarae rhan wrth lunio’r dyfodol. Mae hynny yn ei dro yn dwyn clod i Aberystwyth, y lle bu dechrau’ch gwaith â ffiseg a arweiniai at ddyfeisiadau electronig yr unfed ganrif ar hugain, a dyna pam rydym yn eich anrhydeddu heddiw.

Anrhydeddus Lywydd, cyflwynaf i ti yr Athro Vernon Morgan i’w urddo yn Gymrawd Prifisgol Cymru, Aberystwyth.