Pa mor wyrdd yw dy ffon?

Mr Tim Knowles a Alison Geeves

Mr Tim Knowles a Alison Geeves

20 Gorffennaf 2006

Dydd Iau 20 Gorffennaf, 2006
Pa mor wyrdd yw dy ffon?
Myfyrwyrymchwil o Aberystwyth i astudio oblygiadau amgylcheddol ffonau symudol
Mae'r deng mlynedd diwethaf wedi bod yn dyst i ffrwydriad ffonau symudol ac yn 2004 (Eurosource Europe) amcangyfrwyd fod y farchnad fyd-eang yn 1.25 biliwn o setiau llaw. Ond mae poblogrwydd ffonau symudol wedi arwain at her newydd mewn rheolaeth gwastraff.

Mae pobl yn y DU yn newid eu ffonau symudol yn rheolaidd er mwyn dilyn fasiwn a manteisio ar y datblygiadau technolegol diweddaraf. Er hyn, y broblem yw bod darnau cydrannol y ffôn, gan gynnwys y batri aildrydanadwy ar sgrin LCD, yn cael eu hystyried yn wastraff peryglus. Mae llai a llai o claddfeydd sbwriel yn derbyn y math yma o wastraff ac mae gweithdrefnau rheoli newydd a phryder cyhoeddus cynyddol yn golygu bod rhaid ail-feddwl y strategaeth rheoli gwastraff.  

Dyfarnwyd ysgoloriaethau i ddau fyfyriwr Sefydliad y Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth (PCA) gan Adran yr Amgylchedd, Amaeth a Materion Gwledig – DEFRA. Y dasg i Mr Tim Knowles a Miss Alison Geeves yw dod o hyd i ateb i'r broblem ffonau symudol. Bydd y ddau yn cynnal yr ymchwil fel rhan o’u cwrs MSc mewn “ Rheoli’r Amgylched”.

Bydd Tim yn canolbwyntio ar ddyluniad a’r broses gynhyrchu ac yn ymchwilio i fewn i dechnolegau newydd er mwyn cynyddu cynaladwyaeth ffonau symudol. Ei farn ef yw “fod y diwydiant ffonau symudol yn enfawr. Oni ddylem chwilio am a defnyddio darnau cynaladwy ar gyfer cynhyrchu ffonau symudol? Bydd ffonau symudol yn parhau i chwyldroi ein bywydau, ac mae angen i ni newid ein ymddygiad er mwyn prynu ac ymddwyn yn fwy gwyrdd a thrwy hynny leihau ein ôl troed ecolegol”.
 
Bydd Alison yn astudio hyd a lled ac effaith cynlluniau ail-ddefnyddio ac ail-gylchu ffonau symudol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. “Mae yna fanteision amlwg o anfon ein ffonau i wledydd sydd yn datblygu, ond golyga hyn hefyd ein bod yn cyflwyno problem gwastraff peryglus i’r gwledydd yma. Rhaid sicrhau fod ein dehongliad ni o roi cynaladwy yn ymateb i anghenion datblygu cynaladwy ac amddiffyn amgylcheddol.” Bydd hi hefyd yn edrych ar potensial i’r rhwydweithiau ffonau hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol.

Mae’r cyfle i weithio gyda DEFRA wrth fodd y ddau fyfyriwr. Mae ffonau symudol yn fater byd-eang ac mae rhan fwyaf o’r bobl unai’n anymwybodol fod yna broblem amgylcheddol gynyddol neu’n dewis ei hanwybyddu.