Lansio meddalwedd swyddfa agored

Delwedd sgrin Agored

Delwedd sgrin Agored

16 Tachwedd 2006

Dydd Iau 16 Tachwedd 2006
Lansio Meddalwedd Swyddfa Digost ym Mae Caerdydd

Bydd y rhaglen meddalwedd swyddfa Agored yn cael ei lansio heddiw1 gan Alun Pugh. Rhaglen newydd yw Agored2, ac fe fydd ar gael yn rhad ac am ddim. Fersiwn o'r rhaglen OpenOffice a ddefnyddir ledled y byd ydyw: fe gafodd y gwaith lleoleiddio'i wneud ers dwy flynedd yng Nghanolfan Mercator, Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae i feddalwedd Agored rinwedd arbennig iawn: y mae hi'n rhaglen ddwyieithog Saesneg-Cymraeg.

Ffrwyth buddsoddi hael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, S4C a Bwrdd yr Iaith yw Agored er mwyn darparu meddalwedd swyddfa cyflawn yn y ddwy iaith. A chofiwch hyn – mae Agored ar gael yn rhad ac am ddim! Cewch ddadlwytho copi cyfan heddiw, a hynny yn gwbl gyfreithlon, oddi ar www.agored.com. Mae ar gael i chi at bob perwyl, boed yn ddomestig, yn addysgol, yn llywodraethol neu’n fasnachol. Ewch ag Agored ar wibdaith brawf. Os bydd y modur at eich dant, cewch gadw’r allwedd!

Wrth iddo sôn am Agored, dywedodd Andrew Davies, Y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau yn y Senedd, Bae Caerdydd: “Bydd Agored yn offeryn defnyddiol tu hwnt i nifer o fusnesau ledled Cymru sy’n gweithredu’n ddwyieithog.” Dyma oedd sylwadau’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Y Gymraeg, a Chwaraeon, Alun Pugh: “Mae lansio’r meddalwedd swyddfa hwn yn gam mawr ymlaen tu fewn i’r strategaeth technoleg wybodaeth y mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi’i datblygu fel rhan o Iaith Pawb sef strategaeth Llywodraeth y Cynulliad i’r iaith.” 

“Agored yw’r prosiect meddalwedd Cymraeg mwyaf erioed,” meddai Ned Thomas, Cyfarwyddwr Academaidd Canolfan Mercator ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. “Bu pump o dîm yng nghlwm â’r prosiect ym Mercator, a bu nifer o gyfieithwyr allanol yn gweithio arno hefyd. Cafodd mwy na hanner miliwn o eiriau eu cyfieithu, yn sgriniau cymorth ac yn rhyngwyneb, ac fe gafodd llawlyfr cwbl wreiddiol ei gyfansoddi.”

Fe ddywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: “Agored yw’r datblygiad pwysig diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau ym myd technoleg Cymraeg. Mae’n syndod faint sydd ar gael erbyn hyn yn Gymraeg yn y maes. Mae hyn yn gyfraniad arall y bydd croeso mawr iddo.”

Suite meddalwedd cyflawn i’r swyddfa yw Agored. Mae rhaglen trin a phrosesu geiriau ganddo (Writer)3, yn ogystal â rhaglen daenlenni (Calc)4, rhaglen ddarlunio (Draw)5, rhaglen llunio a  dangos sleidiau (Impress)6, a rhaglen fathemateg (Math)7. Fe fydd yn cydweithio yn esmwyth â’r ffeiliau sydd gennych ar eich cyfrifiadur eisoes, yn fformat Microsoft Word8, Excel8, neu PowerPoint8, er enghraifft.Yn anad dim, rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer y swyddfa ddwyieithog yw Agored. Caiff gwahanol ddefnyddwyr gyfnewid yn rhwydd o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg heb ailgychwyn y cyfrifiadur nac ail-lwytho meddalwedd. Mae'r holl orchmynion a negeseuon cymorth ar gael yn y ddwy iaith, ac y mae’r Gymraeg a arferir yn safonol.  Nodwedd arloesol arall yw’r opsiwn gwirio sillafu’r Gymraeg a’r Saesneg yn yr un testun.

Mae llawer o ddefnyddwyr Agored yn credu bod gan y rhaglen ragoriaethau sydd yn ei gwneud yn fwy pwrpasol na rhai o'r rhaglenni côd caeedig mwyaf poblogaidd. Yn un peth, er enghraifft, gall Agored greu ffeiliau pdf. Yn beth arall, gwerth tanlinellu mai rhaglen Côd Agored yw Agored. Mae’n gyfrith felly â’r safonau cydnawsedd Ewropeaidd mwyaf diweddar. Yn wir, o ystyried popeth, mae i Agored gadarnach ddyfodol na rhai rhaglenni meddalwedd y mae rhaid eu prynu.

Digost yw Agored i chi’u defnyddio tra mynnoch a lle y mynnoch. Fe fydd yn diwallu'ch holl anghenion meddalwedd swyddfa. Beth amdani felly?  Dadlwythwch eich copi oddi ar www.agored.com.

Nodiadau
1. Lansiwyd Agored ar ddydd Iau, 16eg Tachwedd yn Oriel y Senedd, Bae Caerdydd.
2. Cewch ragor o wybodaeth oddi wrth: Ned Thomas, Agored, Adeilad Stapleton, Ystafell W12A, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Campws, lanbadarn, Aberystwyth,  01970-621643SY23 3AL  e-bost agored@agored.com.
3. word processor
4. spreadsheet
5. presentations
6. drawing
7. database
8. Mae Microsoft, Microsoft Office, Word, Excel, a PowerPoint yn nod masnach neu’n nod masnach cofrestredig i Gorfforaeth Microsoft yn yr Unol Daleithiau neu/ac mewn gwledydd eraill.

Daw nawdd Agored.com oddi wrth:
Yr Undeb Ewropeaidd     
Llywodraeth Cynulliad Cymru  
S4C
Bwrdd yr Iaith Gymraeg