Llety Myfyrwyr Llanbadarn

Campws Llanbadarn

Campws Llanbadarn

03 Tachwedd 2006

Dydd Gwener 3 Tachwedd 2006
Llety Myfyrwyr Llanbadarn
Daeth adolygiad o lety myfyrwyr ar gampws Llanbadarn ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth i'r casgliad bod yr adeiladau wedi cyrraedd diwedd eu oes gwaith.

O ganlyniad, yn ystod ei gyfarfod ar ddydd Mercher 1af Tachwedd, cymeradwyodd Cyngor y Brifysgol argymhelliad i gau llety Llanbadarn ar ddiwedd Mehefin 2007.

Dywedodd y Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor:
“Daeth yn amlwg, yn dilyn astudiaeth fanwl o'r llety yn Llanbadarn, fod nifer o broblemau strwythurol sylfaenol sydd yn deillio o’u dyluniad a’r defnyddiau a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu. Ystyriwyd y gost o adnewyddu’r adeiladau a daethpwyd i’r casgliad fod hyn yn rhy uchel. Canlyniad hyn yw fod Cyngor y Brifysgol wedi derbyn yr argymhelliad i’w cau ar ddiwedd Mehefin 2007.”

Mae neuaddau Llanbadarn yn darparu llety ar gyfer hyd at 300 o fyfyrwyr mewn 5 bloc, sef Aeron, Cletwr, Einion, Dyfi a Leri.

Yn dilyn y penderfyniad hwn mae’r Brifysgol yn cynnal proses o ymgynghori llawn gyda’r holl staff y mae’r penderfyniad yn debygol o effeithio arnynt.

Mae’r Brifysgol yn datblygu strategaeth ystadau newydd ar hyn o bryd fydd yn cynnwys penderfyniad ar anghenion a lleoliad llety i fyfyrwyr yn y dyfodol.