Yr Eisteddfod Genedlaethol

Bydd Dewi'r Dolffin yn ymddangos yn yr Eisteddfod eleni

Bydd Dewi'r Dolffin yn ymddangos yn yr Eisteddfod eleni

02 Awst 2007

Dydd Iau Awst 2 2007
Y Brifysgol ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Bydd stondin Prifysgol Cymru, Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint (4-12 Awst) yn fwrlwm o weithgaredd. Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfle i wneud ffilm fer am y Maes, darlithiau, darlleniadau llenyddol, cwis gwleidyddol, lansio llyfrau a derbyniadau i ddarpar a chyn-fyfyrwyr.

Yn ogystal mae croeso mawr i ddisgyblion ysgol, cyn-fyfyrwyr, athrawon neu unrhyw un sydd eisiau paned a sgwrs i alw draw, a bydd cyfle hefyd i blant ddod i chwarae ar y Playstation, tynnu llun, ac i gyfarfod â Dewi'r Dolffin, masgot arbennig y Brifysgol!

Y Ganolfan Astudiaethau Addysg yn 25 oed
Bydd cynrychiolwyr o’r Ganolfan Astudiaethau Addysg (CAA) hefyd ar y stondin drwy'r wythnos, felly dewch heibio am sgwrs, ac i gael golwg ar eu cyhoeddiadau diweddaraf. Mae CAA yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 mlwydd oed eleni ac yn parhau i ffynnu yn y maes cyhoeddi addysgol yng Nghymru.

Y Radd Allanol
Os ydy astudio yn rhan-amser er mwyn ennill gradd yn apelio atoch chi, beth am ddod i gael gair gyda staff a myfyrwyr y Radd Allanol, a fydd yn bresennol drwy’r wythnos. Cwrs unigryw yw’r Radd Allanol a ddysgir yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Chi sy’n rheoli amserlen eich dysgu a gallwch ddilyn amrywiaeth o gyrsiau sydd yn sefyll yn annibynnol neu arwain at radd BA yn y Gymraeg.

Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr
Bydd gan Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol gynrychiolaeth ar y stondin hefyd a bydd cyfle i chi ymuno â’r gymdeithas os nad ydych yn aelod ohoni yn barod. Dyma gyfle gwych i hel atgofion a chyfarfod hen ffrindiau a chael tocyn i dderbyniad y cyn-fyfyrwyr sydd yn cael ei gynnal brynhawn Mercher am 3 o’r gloch ym mhabell ‘Bant a la Cart’.

Digwyddiadau’r wythnos
Dydd Llun 6ed o Awst
10 y bore – 4 y prynhawn: Maes yr Eisteddfod: Ddy Mŵfi
Dyma gyfle i unrhyw un sy’n awyddus i actio neu gynhyrchu ar gyfer ffilm i roi tro arni! Bydd staff o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wrth law i roi hyfforddiant ar ddefnyddio offer technegol ac i’ch tywys drwy’r broses o gynhyrchu a golygu gwaith ffilm.

Dydd Mawrth 7fed o Awst
11 y bore: Darlith Wyddeleg Oes gennych chi ddiddordeb yn yr ieithoedd Celtaidd? Os felly, dewch heibio am flas o ddarlith Wyddeleg gan Dr Ian Hughes o Adran y Gymraeg. Gallwch fod yn sicr y bydd y ‘wers’ yn un ddiddorol a bywiog.

2 y prynhawn: Lansiad dwy astudiaeth gan ddau awdur am iaith a llenyddiaeth Geltaidd. Dyma gyfle i ymuno â dau aelod o Adran y Gymraeg wrth iddynt lansio cyhoeddiadau o’u hastudiaethau mwyaf diweddar. Bydd Dr Rhisiart Hincks yn lansio
-        ‘Pawb yn ei Baradwys / yn ei Uffern ei hun, 1-202;
-        ‘Heb fenthyca cymaint â sill ar neb o ieithoedd y byd’; a
-        ‘Bezañ beleg a zo kargus koulz ’vel bezañ relijiuz’, 1-173.
Bydd Dr Ian Hughes hefyd yn lansio ‘Math uab Mathonwy: Pedwaredd Gainc y Mabinogi’. Galwch heibio am sgwrs â’r awduron ac am wydraid o win.

Dydd Mercher 8fed o Awst
11 y bore: Darlleniadau
Ddiwedd bore Mercher bydd cyfle i wrando ar ddarlleniadau llenyddol gan staff Adran y Gymraeg a chyn-fyfyrwyr adnabyddus y Brifysgol. Ymhlith y llenorion bydd Huw Meirion Edwards, Eurig Salisbury, Gerwyn Iwan Rhys a Hywel Griffiths.

2.30 y prynhawn: Cwis Gwleidyddol
Faint ydych chi’n wybod am wleidyddiaeth Cymru? Cynhelir cwis gwleidyddol ar y stondin yng nghwmni Lyn Lewis Dafis. Croeso i bawb, dewch â’ch ffrindiau i gystadlu mewn tîm!

3. y prynhawn: Te’r Cyn-fyfyrwyr
Pabell ‘Bant a la Cart’. Cyfle gwych i hel atgofion a chyfarfod hen ffrindiau. Mynediad drwy docyn yn unig. Tocynnau ar gael o stondin y Brifysgol ar y Maes.

Dydd Iau 9fed o Awst
11 y bore: Lansiad Astudiaeth Amgylcheddol
Bydd Hefin Williams o Sefydliad y Gwyddorau Gwledig yn lansio ei Dermiadur Amaethyddol/Amgylcheddol ar stondin y Brifysgol fore Iau, a hynny yng nghwmni yr Athro Aled Gruffydd Jones a gwestai arbennig.

Dydd Gwener 10fed o Awst
3 y prynhawn: Derbyniad i Ddarpar-Fyfyrwyr
Am dri o’r gloch ddydd Gwener bydd croeso mawr i holl ddarpar-fyfyrwyr 2007 i ymuno â ni yn y babell am ddiod bach ac adloniant gan y grŵp Vanta. Bydd cyfle i chi, a’ch rhieni a ffrindiau, ddod i sgwrsio gyda staff y Brifysgol a chyfarfod â phobl ifanc eraill fydd yn dechrau yn y Brifysgol ym mis Medi.

3 y prynhawn: Pabell y Cymdeithasau
Cynhelir cyfarfod Cyhoeddus ‘Cymru wedi Etholiad y Cynulliad 2007’ ar y cyd rhwng Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol PCA a’r Comisiwn Etholiadol. Dyma gyfle i drafod a chwestiynu panel o arbenigwyr.

4.30 y prynhawn: Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn dathlu 10ed penblwydd
Er mwyn dathlu degawd ers sefydlu Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, cynhelir derbyniad i gyn-fyfyrwyr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Cymru, Aberystwyth ar stondin y Brifysgol, ac yn syth ar ôl y cyfarfod cyhoeddus ym Mhabell y Cymdeithasau. Dewch i ymuno â ni am luniaeth ysgafn a sgwrs.