Aberystwyth ar frig tabl bodlonrwydd myfyrwyr

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

16 Awst 2007

Dydd Iau 16 Awst 2007
Aberystwyth ar frig tabl Bodlonrwydd Myfyrwyr
Mae Prifysgol Cymru, Aberystwyth wedi cofnodi'r sgôr uchaf yn y Deyrnas Gyfunol am fodlonrwydd myfyrwyr yn ôl The Times Good University Guide 2008 sydd yn cael ei gyhoeddi heddiw, ddydd Iau 16 Awst 2007.

Mae pedair prifysgol arall, St Andrews, Loughborough, East Anglia a Chaerlŷr, yn gyfartal ag Aberystwyth ar frig y tabl gyda sgôr o 4.1.

Mae Aberystwyth hefyd wedi dringo 7 safle yn y tabl i safle 39 ac yn ail yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Aberystwyth: “Rydym wrth ein boddau fod ein myfyrwyr unwaith eto eleni wedi cydnabod yr awyrgylch ddiogel, hardd a chroesawgar mae Aberystwyth yn ei gynnig, ymrwymiad aelodau staff, y cyrsiau academaidd cyffrous a'r ysbryd gymunedol hyfryd sydd yn cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn Aberystwyth yn un mor gofiadwy i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd.”

“Rydym wedi bod yn agos at y brig ym mhob arolwg bodlonrwydd myfyrwyr hyd yma, ond mae bod yn gydradd gyntaf yn fater o gryn falchder i bawb yma. Ar yr un pryd y nod yw parhau i wella’r profiad myfyriol yma ym mhob agwedd. Mae ein myfyrwyr, a’r rhai fydd yn ymuno gyda nhw yma yn y dyfodol, yn gwybod nawr eu bod yn mwynhau’r amgylchedd fyfyrio orau sydd gan y Deyrnas Gyfuno i’w gynnig,” ychwanegodd.

Mae astudiaethau diweddar eraill yn adrodd yr un hanes o fodlonrwydd uchel ymysg myfyrwyr Aberystwyth. Ym Mehefin 2007 cyhoeddodd www.accommodationforstudents.com taw Aberystwyth oedd hoff dref brifysgol y Deyrnas Gyfuno yn dilyn astudiaeth o 34,000 o adolygiadau gan fyfyrwyr. Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf roedd Aberystwyth yn 5ed yn y Deyrnas Gyfunol gyda chymhareb bodlonrwydd o 90%, ac yn y cyhoeddiad The Good University Guidewww.thegooduniversityguide.org.uk ymddangosodd ym mis Gorffennaf 2007, roedd Aberystwyth yn 8ed.