Canllawiau Clirio Gwerth Chweil

Campws Penglais

Campws Penglais

16 Awst 2007

Dydd Iau 16 Awst 2007
Aberystwyth yn lansio Canllawiau Clirio Gwerth Chweil
Mae Prifysgol Cymru Aberystwyth wedi lansio canllaw newydd er mwyn cynorthwyo myfyrwyr  wrth iddynt lywio'u ffordd drwy'r broses glirio yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Safon Uwch.

Mae’r Canllawiau Clirio Gwerth Chweil ar gael yn rhad ac am ddim o’r wefan http://www.aber.ac.uk/cy/clearing/guide.php ac yn cynnig cyngor ar beth i’w wneud yn syth wedi i’r canlyniadau gael eu rhyddhau, ac yna tan sicrhau lle mewn prifysgol.

Datblygwyd y canllaw gan Dr Ian Harris, Swyddog Marchnata Digidol Prifysgol Cymru, Aberystwyth. “Y syniad tu ôl i ddatblygu’r Canllawiau Clirio oedd yr awydd i ddarparu cyngor eglur i ddisgyblion sydd yn chwilio am le mewn prifysgol. Y cyngor gorau ar gyfer y cyfnod hwn i’r rhai sydd bellach yn y broses glirio yw peidio rhuthro. Ymchwiliwch eich opsiynau yn drylwyr ac yna ewch ati yn syth i sicrhau lle ar y cwrs ac yn y brifysgol o’ch dewis chi.”

Eisoes lawr lwythwyd nifer sylweddol o’r Canllaw Clirio. Bydd enwau pawb sydd yn ei lawr lwytho yn cael eu rhoi mewn het am iPod Shuffle.