Sir John Houghton i ddarlithio ar newid hinsawdd

John Houghton

John Houghton

21 Chwefror 2007

Dydd Mercher 21 Chwefror 2007
Sir John Houghton i ddarlithio ar newid hinsawdd
Bydd Sir John Sir John Houghton, CBE, FRS, yn traddodi darlith wadd brynhawn Mercher 21ain Chwefror ar fodeli hinsawdd, proffwydo'r hinsawdd a rôl yr IPCC, y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd. Cynhelir y ddarlith am 5 o'r gloch yn y Brif Ddarlithfa Ffiseg yn Adeilad y Gwyddorau Ffisegol.

Mae Syr John Houghton yn Gadeirydd Menter John Ray. Bu yn Gadeirydd neu’n gyd-Gadeirydd Asesiad Gwyddonol y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC), 1988 – 2002, Athro Ffiseg Atmosfferig ym Mhrifysgol Rhydychen, 1976-1983, Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrifweithredwr Swyddfa Meteorolegol y DU, 1983 – 1991, Cadeirydd Comisiwn Brenhinol y DU ar Lygredd Amgylcheddol, 1992 – 1998, aelod o Banel Llywodraeth y DU ar Ddatblygu Cynaladwy, 1994 – 2000. Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys ‘The Physics of Atmospheres, Global Warming: the Complete briefing’ a ‘The Search of God, can science help?’

Dyfarnwyd iddo Wobr Siapan 2006 am ei waith arloesol ar newid byd-eang a cafodd ei urddo’n Gymrawd Prifysgol Cymru, Aberystwyth yng Ngorffennaf 2006.

Mae croeso cynnes i bawb fynychu a manteisio ar y cyfle hwn i glywed awdurdod byd-eang yn trafod newid hinsawdd.