Dwy Ysgoloriaeth ol-raddedig newydd

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

16 Mai 2007

Dydd Mercher 16 Mai 2007
Dwy Ysgoloriaeth ol-raddedig newydd
Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn gwahodd ceisiadau ar gyfer dwy Ysgoloriaeth ol-raddedig; un mewn Troseddeg a'r llall trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd yr ymgeisydd Troseddeg llwyddiannus yn ymgymryd ag ymchwil i natur a maint troseddau, canfyddiadau ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwerthuso canlyniadau mentrau rheoli trosedd, ar stad o dai mewn tref fach yng nghefn gwlad Cymru. Bydd yr arian hwn ar gael i fyfyriwr sy'n dechrau ym mlwyddyn academaidd 2007-2008 am gyfnod o dair blynedd. Goruchwylir yr ymchwil gan yr Athro Alan Clarke a Kate Williams. 

Cynigir yr ysgoloriaeth gyfrwng Gymraeg am gyfnod o ddim mwy na phum mlynedd, ac mae yn cynnwys ffioedd a chynhaliaeth dros gyfnod yr astudiaeth. Disgwylir i ddeiliad yr ysgoloriaeth gyfrannu at ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn. Bydd graddedigion sydd eisoes wedi astudio ar gyfer gradd meistr yn astudio am 4 blynedd, a bydd graddedigion sydd heb radd meistr yn astudio am 5 mlynedd, ac yn derbyn hyfforddiant ymchwil yn ystod y flwyddyn gyntaf. Yn y ddau achos, ystyrir blwyddyn olaf yr ysgoloriaeth fel blwyddyn gymrodoriaeth pan fydd y dyletswyddau dysgu yn cynyddu. Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil mewn sefydliad sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth ymchwil yn ogystal ag addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyllidir yr ysgoloriaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru trwy’r Ganolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg fel rhan o Strategaeth cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r brifysgol hefyd yn cyfrannu’n ariannol at y cynllun drwy gyfrannu at gyflog y deiliaid yn ystod y flwyddyn olaf.

Ymholiadau anffurfiol ynglyn â’r Ysgoloriaeth cyfrwng Cymraeg at Dr Catrin Fflur Huws, Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Cymru Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DY. Ffôn 01970 622712. Ffacs 01970 622729. Ebost: trh@aber.ac.uk.

Am ymholiadau anffurfiol ynglyn â’r Ysgoloriaeth mewn Troseddeg cysylltwch â’r Athro Alan Clarke, Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Cymru Aberystwyth, Adeilad Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DY E-bost ahc@aber.ac.uk.

Manylion pellach a ffurflen gais ar gael gan Mrs Pamela Davies, Ysgrifenyddes Astudiaethau Uwchraddedig, Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Cymru Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DY. Ffôn 01970 621930. Ffacs 01970 622729. Ebost: pmw@aber.ac.uk.  

Dyddiad cau Mehefin 8fed, 2007.