Yr Athro Gwyn Jones

Dr Sam Adams a fu'n dadorchuddio

Dr Sam Adams a fu'n dadorchuddio

22 Rhagfyr 2008

Dydd Llun 22 Rhagfyr 2008
Yr Athro Gwyn Jones

Dadorchuddiwyd cofeb o lechen Gymreig ym Mhrifysgol Aberystwyth i goffau bywyd a gwaith yr ysgolhaig a'r awdur, yr Athro Gwyn Jones.   

Comisiynwyd y gofeb gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies gyda chefnogaeth yr Academi, Prifysgol Aberystwyth a Gwasg Prifysgol Rhydychen. Cafodd ei dadorchuddio ddydd Mawrth 9ed o Ragfyr gan y bardd, beirniad a'r golygydd, Dr Sam Adams, a fu yn un o fyfyrwyr yr Athro Jones yn y 1950au.

Yn wreiddiol o Dredegar Newydd ym Mynwy, roedd yr Athro Jones yn nofelydd ac awdur straeon byrion, yn ysgolhaig a chyfieithydd llenyddiaeth a hanes Nordig. Mae ei gyfieithiadau yn cynnwys Four Icelandic Sagas (1935), The Vatndalers' Saga (1944), The Mabinogion (1948), Egil's Saga (1960), Eirik the Red and Other Icelandic Sagas (1961) a The Norse Atlantic Saga (1964). Yn ogystal ysgrifennodd A History of the Vikings (1968) a Kings, Beasts and Heroes (1972).

Roedd hefyd yn awdur pwysig yn y traddodiad Eingl-Gymreig. Mae ei nofelau a chasgliadau o straeon yn cynnwys Richard Savage (1935), Times Like These (1936), The Nine Days' Wonder (1937) a Garland of Hays (1938), The Buttercup Field (1945), The Flowers beneath the Scythe (1952), Shepherd's Hey (1953) a The Walk Home (1962). Yn 1977 cyhoeddwyd The Oxford Book of Welsh Verse in English a olygwyd ganddo.

Cafodd ei benodi yn Athro Saesneg yn Aberystwyth yn 1940 lle bu’n gweithio tan ei benodi i’r Gadair Saesneg yng Nghaerdydd yn 1964. Bu farw yn 1999.

Cyn dadorchuddio’r gofeb bu Dr Adams yn sôn am y tro cyntaf iddo weld yr Athro Jones.
The first time I saw him in the round, as it were, was on an evening in November of the same year, 1952, when, in full academic fig, (indeed far more formally attired that I was accustomed to seeing him later) he led a small and peculiarly dishevelled guest to the platform at a meeting of the Arts Society in the old Exam Hall. With what I came to recognise as the characteristic smile in his voice, and in perfectly formed sentences, he introduced to the packed audience this individual in shapeless brown suit and what to all appearances was a pyjama jacket rather than a shirt. It was Dylan Thomas. The Collected Poems had not long come out and his reading, the whole experience of that night, was unforgettable. A year later Dylan Thomas was dead in New York.”

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Rhys Davies yn 1990 er cof am Rhys Davies, nofelydd ac awdur straeon byrion Cymreig, ac i hyrwyddo awduron Cymreig sydd yn gweithio yn Saesneg. Mae’r Ymddiriedolaeth yn noddi Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies yr Academi ac wedi comisiynu dwsin o gofebau er cof am awduron Cymreig oedd yn gweithio yn Saesneg.

Gwaith yr artist a’r crefftwr Ieuan Rees yw’r gofeb i’r Athro Jones ac mae i’w gweld yn Llyfrgell Hugh Owen y Brifysgol.