Cyswllt Ffermio

Dr Nic Lampkin, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru

Dr Nic Lampkin, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru

10 Gorffennaf 2008

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones AC, heddiw (Dydd Iau 10 Gorffennaf) fod y Brifysgol wedi ennill y cytundeb i redeg Rhaglen Datblygu Organig Cyswllt Ffermio.

Dyfarnwyd y cytundeb tair blynedd, sydd werth £825,000, i Ganolfan Organig Cymru, sydd yn rhan o IBERS, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, darpar gyfarwyddwr IBERS a ffurfiwyd yn dilyn uno IGER â Phrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar: “Mae'r cysylltiad agos rhwng Y Ganolfan Datblygu Tir Glas IGER a Rhaglen Datblygu Canolfan Organig Cymru yn enghraifft dda o'r cyfleoedd sydd yn bosibl yn dilyn yr uniad. Rydym yn falch iawn fod mentrau trosglwyddo gwybodaeth megis hon yn ychwanegu at waith gwyddonol y Sefydliad.”

Dywedodd Dr. Nic Lampkin, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru: “Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad hwn gan ei fod yn gydnabyddiaeth o’r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud gyda cynhyrchwyr organig a’r rhai sydd yn ystyried trosglwyddo i gynhyrchu yn organig. Rydym wedi bod yn ymwneud gyda darparu gwasanaethau Cyswllt Ffermio  i gynhyrchwyr organig ers 2002.”

“Mae’r cytundeb newydd yn estyniad o’r gwaith, ac yn canolbwyntio ar ddarparu crfach yn rhanbarthol a chymhathu arbenigedd o’r Ganolfan Datblygu Tir Glas. Rydym nawr mewn sefyllfa dda i gefnogi yr ehangu mawr sydd wedi digwydd eleni mewn cynhyrchu organig,” ychwanegodd.

Bydd rhwydwaith o 10 fferm arddangos a 20 grŵp yn derbyn cefnogaeth gan dri swyddog trosglwyddo gwybodaeth sydd wedi eu lleoli yng Nghanolfan Organig Cymru yn Aberystwyth a Swyddfeydd Rhanbarthol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Llandrindod, Caerfyrddin a Chaernarfon. Bydd gwybodaeth am bridd, porthiant a glaswelltir yn cael ei ddarparu gan staff y Ganolfan Datblygu Tir Glas yn IBERS.   

Eleni bydd Canolfan Organig Cymru yn bresennol mewn sioeau a digwyddiadau allweddol ar draws Cymru, gan gynnwys y Sioe Frenhinol a’r Sioe Aeaf. Bydd Cyswllt Ffermio hefyd yn cefnogi cynhadledd cynhyrchwyr organig fydd yn cael ei chynnal ar ddydd Iau 23ain Hydref yn Llanfair ym Muallt. Am y tro cyntaf trefnir y gynhadledd ar y cyd gan y Ganolfan Datblygu Tir Glas a Chymdeithasau Tir Glas Cymreig ac yn cynnig cyfle i gynhyrchwyr organig a chonfensiynol ddod at eu gilydd i chwilio am atebion i bris uchel porthiant a gwrtaith.

Gellir cysylltu â Rhaglen Datblygu Organig Cyswllt Ffermio drwy ffonio Canolfan Organig Cymru ar 01970 622100 neu cofrestru gyda Canolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio drwy ffonio 08456 000813.

Sefydlwyd Canolfan Organig Cymru (www.organic.aber.ac.uk) yn 2000. Mae’n cael ei chyllido gan Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn gweithredu ar ffurf partneriaeth sydd yn cynnwys ADAS, Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm, a Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth.   

Mae gan Y Ganolfan Datblygu Tir Glas IBERS enw da am ddarparu canlyniadau ymchwil annibynnol megis atebion ar gyfer sustemau ffermio organig sydd yn defnyddio gwahanol ffyrdd megis hwyluso a gweithio mewn grwpiau, ar draws y sectorau llaeth a chig coch, cnydau a chnydau ynni. Mae elfennau allweddol yn cynnwys rheolaeth pridd a maeth, rheolaeth gynhwysfawr o dir glas a phorthiant er mwyn cynhyrchu, manteision amgylcheddol ac anghenion deddfwriaethol.

Yn ôl data DEFRA cafwyd cynnydd o 22% mewn ffermio organig yng Nghymru yn 2007. Ar ddiwedd 2007 roedd 857 o ffermydd yn rheoli 96,000 hectar yn organig, 6.4% o dir amaethyddol Cymru, o’i gymharu â 3.7% yn Lloegr. Cafwyd ceisiadau gan dros 300 o ffermwyr o Gymru i ymuno â Chynllun Ffermio Organig Cymru yn 2008, a fydd yn arwain at gynnydd sylweddol yn y ddaear sydd yn cael ei rheoli yn organig.