Ffair Astudiaethau Uwchraddedig

Ymchwil

Ymchwil

28 Tachwedd 2008

Dydd Gwener 28 Tachwedd 2008
Ffair Astudiaethau Uwchraddedig Prifysgol Aberystwyth

Cynhelir 9ed Ffair Astudiaethau Uwchraddedig Prifysgol Aberystwyth rhwng 3 a 7 yr hwyr, ddydd Mercher y 3ydd o Ragfyr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Targedwyd y digwyddiad at anghenion sydd â diddordeb mewn astudio ar gyfer gradd Meistr; Diploma neu Dystysgrif Addysg Uwch neu hyd yn oedd Ddoethuriaeth, ac mae'n gyfle delfrydol i fyfyrwyr o Aberystwyth gael gwybod mwy am ddarpariaeth uwchraddedig y Brifysgol.

Yn ogystal, mae'n gyfle gwych i gael cyngor ar faterion ariannol, ysgoloriaethau, Benthyciadau Datblygu Gyrfa, a’r broses o wneud cais.
Bydd rhaglen o sgyrsiau penodol sydd yn canolbwyntio ar raglenni academaidd ac ar faterion yn ymwneud â chyllid ac ysgoloriaethau yn cael ei chynnal yn ystod y Ffair ac hefyd bydd cyfle i drafod y profiad o fod yn fyfyriwr uwchraddedig yma yn Aberystwyth gyda staff academaidd a gweinyddol.

Cofrestrwch ymlaen llaw cyn 12 ganol dydd Mawrth (2/12/08) drwy e-bostio pg-admissions@aber.ac.uk a gallech ennill tocyn WH Smiths gwerth £20.

Tra’n cofrestru ymlaen llaw gofynnir i ddarpar fyfyrwyr uwchraddedig nodi pa adran(nau) sydd o ddiddordeb iddynt a pa fath o gymhwyster – PhD, MPhil, Meistr Dysgu, Diploma Uwchraddedig, Tystysgrif Uwchraddedig.

Ceir manylion pellach am y Ffair ar y wefan http://www.aber.ac.uk/pga/.