Lansio partneriaeth gyfryngol

Chwith i'r Dde. Yr Athro Noel Lloyd, Yr Athro Adrian Kear a Mr Eurig Davies o Boomerang+ yn y lansiad

Chwith i'r Dde. Yr Athro Noel Lloyd, Yr Athro Adrian Kear a Mr Eurig Davies o Boomerang+ yn y lansiad

28 Hydref 2008

Bydd gwneuthurwyr ffilm newydd a chynhyrchwyr teledu yn gallu arddangos eu gwaith ar blatfform fideo newydd ar y we yn dilyn cyhoeddiad o bartneriaeth strategol sylweddol rhwng y Brifysgol ac un o brif gwmniau teledu annibynnol Cymru, Boomerang+.

Mae Sesh TV, sydd yn cael ei gefnogi gan S4C, yn cael ei ddatblygu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gyda Cube Interactive, ac mae'n gaddo rhoi hwb mawr i'r sector. Hwn yw’r cyntaf o gyfres o brosiectau a ddisgwylir i esgor o’r cydweithrediad pwysig hwn.

Bu'r Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a Mr Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr Boomerang+, yn lansio’r bartneriaeth strategol dair mlynedd hon yn ffurfiol ar ddydd Mawrth 28 Hydref yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol.

Rhai o brif nodweddion y bartneriaeth yw adnoddau swyddfa ac ymchwilydd llawn-amser yn y Brifysgol i edrych am gyfleoedd pellach ar gyfer gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth a menter, ac i gydlynu datblygiad Sesh TV. Bydd cyfleodd profiad gwaith hefyd yn ffurfio rhan bwysig o’r cytundeb.

Croesawodd yr Athro Noel Lloyd y datblygiad:
“Mae hwn yn gyfle arwyddocaol i’r Brifysgol weithio gyda un o brif gwmniau’r diwydiant darlledu yng Nghymru gan ddatblygu cynnwys arloesol a chyffrous a dulliau newydd o gynhyrchu teledu. Mae hwn yn tanlinellu pwysigrwydd gwaith y Brifysgol yn y sector greadigol a diwylliannol.”

Dywedodd yr Athro Adrian Kear, Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu:
“Mae’r bartneriaeth hon yn darparu cyfle ardderchog i ddatblygu ffyrdd o rannu dealltwriaeth, creu gwybodaeth newydd a meithrin arloesedd. Bydd hwn yn dod â budd i fyfyrwyr, staff ymchwil, a chynhyrchwyr ffilm a theledu. Cefnogir y cynnydd mewn rhyngweithio ymysg y grwpiau hyn gan amgylchedd greadigol a deallusol yr Adran.” 
Mae’r grŵp Boomerang, sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, wedi adeiladu enw da cenedlaethol ar gyfer cynnwys adloniant, chwaraeon eithafol, rhaglenni ffordd o fyw, cerddoriaeth, ieuenctid a phlant. 

Yn dilyn derbyniad llwyddiannus i Farchnad Stoc Llundain ar AIM yn Nhachwedd 2007 derbyniodd ail-gomisiynau sylweddol gan Channel 4 a S4C yn arbennig ym meysydd drama, chwaraeon eithafol a ‘ffordd o fyw’.

Yn Hydref 2007 dechreuodd gynhyrchu ar “Planed Plant”, y dolenni parhad rhwng rhaglenni plant ar S4C sy’n werth dros £4 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd. Daeth hyn drwy dendr agored yn erbyn cystadleuaeth gref.

Lleolir Boomerang yn y pump uchaf o ran cwmnïau teledu annibynnol, yn ôl refeniw, yn y Gwledydd a Rhanbarthau yn ôl yr Arolwg Darlledu (Cenhedloedd a Rhanbarthau) 2007.

Dywedodd Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr y Grŵp:
“Mae’n bleser mawr gennym ni fod yn rhan o’r bartneriaeth hon. Fel grŵp rydym ni’n buddsoddi’n barhaol mewn staff, adnoddau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu, cyfleodd yn y cyfryngau digidol, a datblygu rhaglenni ac mae’r bartneriaeth hon yn tanlinellu ein ymroddiad i ddatblygu talent yng Nghymru."

"Yn yr hinsawdd hon o newid yn natur darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU ac yn y byd, bydd partneriaethau fel hyn yn helpu Cymru i gwrdd â heriau’r dyfodol digidol”, ychwanegodd.

Bydd presenoldeb Boomerang yn yr Adran, ochr yn ochr a’u swyddfa yn Aberaeron, hefyd yn darparu hwb i’r cyfryngau yng nghanolbarth Cymru.