Gwobr fwyd

Huw McConochie (dde) a Kevan Downing (canol) gyda noddwr y wobr Rees Roberts of Hybu Cig Cymru..

Huw McConochie (dde) a Kevan Downing (canol) gyda noddwr y wobr Rees Roberts of Hybu Cig Cymru..

07 Tachwedd 2008

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn mwynhau bwyd sydd gyda'r gorau yng Nghymru yn ôl Gwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru 2008/9.

Dyfarnwyd y wobr gyntaf i’r Brifysgol am ei Chefnddrill Rhost o Gig Oen yn y seremoni fawreddog o flaen 600 o bobl gafodd ei chynnal yng Nghaerdydd neithiwr (6 Tachwedd).

Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth o ymdrechion Kevan Downing, Pennaeth Gwasanaethau Croeso PA, a Huw McConochie, Rheolwr Ffermydd PA, sydd wedi bod yn cydweithio dros y tair blynedd diwethaf i gyflwyno bwydlen iach i fwytai’r Brifysgol sydd yn cynnwys cig a llysiau o ffermydd y Brifysgol ei hun.

Golyga eu gweledigaeth o gynnyrch lleol o safon fod hyd at 90% o fwyd y Brifysgol bellach yn dod o’i ffermydd ei hun a darparwyr lleol eraill megis Rachel’s Organic, Wyau Birchgrove a’r cigydd Robert Rattray. Mae hefyd wedi arwain at lleihau’n sylweddol yn nifer y milltiroedd bwyd gyda cig a gynhyrchwyd ar dir y Brifysgol yn teithio 36 milltir yn unig o’r gât i’r plât.

Ymgeisiodd dros 350 o gwmnïau a derbyniwyd mwy na 900 o eitemau ar gyfer Gwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru 2008/9, a dewiswyd y rhai oedd i ymddangos yn y rownd derfynol gan banel o feirniaid oedd yn cynnwys y cogydd adnabyddus o Lundain Bryn Williams, Dudley Newbury S4C a Franco Taruschito, gynt o fwyty’r Walnut Tree ger y Fenni.

Wedi iddo dderbyn y wobr dywedodd Kevan Downing; “Mae hon yn foment o falchder eithriadol i dim Gwasanaethau Croeso Prifysgol Aberystwyth. Roed cael ein cynnwys yn y rownd derfynol mewn cystadleuaeth o’r fath fri ac yn erbyn cystadleuwyr cystal yn anrhydedd yn ei hunan. Mae ennill yn adlewyrchiad o’r holl waith caled gafodd ei wneud gan bawb. Mae hon wedi bod yn ymdrech tîm, ac hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan ohoni.”

Dywedodd Elin Jones AC, Gweinidog Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol; “Mae Gwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru yn cydnabod y safon a’r amrywiaeth sydd yn cael eu cynnig gan y diwydiant bwyd a diod Cymreig. Maent yn dangos fod safonau ar draws Cymru yn uchel iawn ac parhau i godi. Hoffwn longyfarch yr enillwyr i gyd eleni ar yr hyn y maent wedi ei gyflawni, a diolch i’n noddwyr a’n cefnogwyr am eu cyfraniadau.”

Dangoswyd gwaith Kevan a Huw ar raglen ITV Wales ‘The Food Show’ ar nos Sul 18 Hydref – gellir ei gweld ar lein ar y cyfeiriad isod http://www.itvlocal.com/wales/programmes/?player=WAL_Prog_15&void=248145 .

Bydd adroddiad llawn ar y Gwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru gafodd eu harwain gan y cyflwynydd i ITV Wales Hywel James, yn cael ei darlledu ar ‘The Food Show’ nos Fercher 12 Tachwedd 2008. Ceir manylion pellach ar y wefan http://www.itvlocal.com/wales/.