Masnach Rydd UE-India

Dr Sangeeta Khorana

Dr Sangeeta Khorana

20 Tachwedd 2008

Cafodd y Dr. Sangeeta Khorana o Ysgol Reolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth ei gwahodd i gyflwyno tystiolaeth i wrandawiad ar y trafodaethau ar y Cytundeb Masnach Rhydd rhwng yr Undeb Ewropeaidd ac India.

Trefnwyd y gwrandawiad gan Bwyllgor Masnach Rhyngwladol y Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel. Estynnwyd gwahoddiadau i gynrychiolwyr o'r gwledydd sydd yn trafod y cytundeb, mudiadau busnes ac arbenigwyr o fri mewn masnach ryngwladol.

Yn dilyn ei chyfraniad cyntaf ar y 5ed o Dachwedd gwahoddwyr Dr Khorana drachefn ar yr 11eg o Dachwedd i siarad ar y pwnc “Cyfleoedd Buddsoddi a rhwystrau i fasnach ar wahân i drethu yn y Cytundeb Masnach Rydd rhwng India a'r Undeb Ewropeaidd.”

Mae Dr. Khorana wedi bod yn ymchwilio i oblygiadau Cytundeb Masnach Rydd rhwng India a’r Undeb Ewropeaidd a fframwaith buddsoddi y mae disgwyl iddynt gael eu gweithredu yn 2010-11. Mae’r astudiaeth hon yn edrych ar ganfyddiadau busnesau i’r rhwystrau sydd eisoes yn wynebu allforwyr lledr, esgidiau, defnyddiau a dillad o India. Mae rhain yn un rhan o dair o holl allforion India i’r Deyrnas Gyfunol.  

Mae’r astudiaeth yn dangos taw diffyg cysondeb mewn rheolau a safonau ar draws marchnad yr Undeb Ewropeaidd a gofynion afresymol mewnforwyr yw diffyg y cytundeb masnach presennol rhwng yr Undeb Ewropeaidd ac India, a’r prif heriau sydd yn wynebu allforwyr o India wrth iddynt geisio manteisio ar y Cytundeb Masnach Rhydd arfaethedig. Ymysg rhwystrau eraill y mae cyfyngiadau mewnol a phroblemau hwyluso masnach yn India sydd yn rhwystro ymhellach y fasnach rhwng India a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r astudiaeth yn cynnig argymhellion polisi mewn ymateb i’r rhwystrau a’r cyfyngiadau yma. Awgrymir cysoni rheoliadau rhwng yr Undeb Ewropeaidd ac India, gwella tryloywder, cymorth technegol a chamau i gynyddu gallu.   

Cyllidwyd y prosiect “Convergence towards Regional Integration between the EU and India: Trade Implications for India and the UK” gan grant ariannol o £34,000 oddi wrth yr Uwch Gomisiwn Prydeinig yn India. Mae’r Ysgol Reolaeth a Busnes wedi bod yn gweithio yn agos gyda Chyngor Ymchwil India ar Gysylltiadau Economaidd Rhyngwladol yn Delhi Newydd ar y prosiect hwn.