Llunio Cymru yfory

Dr Michael Woods, Pennaeth Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Dear

Dr Michael Woods, Pennaeth Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Dear

25 Medi 2008

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn paratoi i chwarae rhan flaenllaw mewn sefydliad newydd gwerth £9m a fydd yn cynorthwyo llywodraeth, llunwyr polisi a busnesau i daclo problemau cymdeithasol mawr yng Nghymru.

Mae Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Ariannol Cymru yn dod â'r gwyddonwyr cymdeithasol mwyaf blaenllaw ar draws Cymru ac yn adeiladu ar arbenigedd yn y gwyddorau cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgolion Caerdydd, Bangor, Abertawe a Morgannwg.

Nod y sefydliad yw datblygu darlun mwy manwl o bobl Cymru drwy gasglu, dadansoddi a rhannu data mewn meysydd megis gweithgaredd economaidd, addysg, gweithgaredd cymdeithasol, iechyd a gofal cymdeithasol.

Yr Athro Martin Jones a Dr Michael Woods o'r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear fydd yn arwain cyfraniad Prifysgol Aberystwyth.  Byddant yn canolbwyntio ar astudio cymunedau yng Nghanolbarth Cymru ac effaith newid cymdeithasol ac economaidd, a’r ffactorau sydd yn eu gwneud yn brofiadau gwahanol i rannau eraill o Gymru.

Croesawodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth y datblygiad:
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru.  Bydd yn galluogi Cymru i ddatblygu yn ganolfan o bwys byd eang yn y gwyddorau cymdeithasol drwy gysylltu’r canolfannau arbenigedd sydd yn bodoli mewn adrannau unigol a cymell cydweithio ar draws y gwahanol ddisgyblaethau a rhwng prifysgolion.”

“Yn o gysal mae gan y Sefydliad y potensial i wneud cyfraniad pwysig iawn i ddatblygiad polisi ac rwy’n falch iawn fod gwahaniaethau rhanbarthol Cymru yn cael eu cynrychioli gan ymchwilwyr o Aberystwyth a fydd yn gweithio law yn llaw gyda ymchwilwyr o brifysgolion eraill.”

Drwy alluogi gwyddonwyr cymdeithasol ar draw Cymru i gydweithio yn agosach ar y gwaith o hel a dadansoddi data cymdeithasol holl bwysig sydd yn newydd neu eisoes yn bodoli, nod y Sefydliad hefyd fydd cynnal trafodaeth gyda phobl Cymru am y llefydd maent yn byw a sut mae modd eu newid er gwell, a thrwy hynny hwyluso penderfyniadau polisi yn y dyfodol. 

Bydd yn creu màs critigol o arbenigedd yn y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru ac yn darparu sail ymchwil cadarn er mwyn cefnogi datblygiad polisi gan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rhagwelir hefyd y bydd yn galluogi Cymru i gystadlu’n well am gyllid ymchwil yn y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Teresa Rees, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae hwn yn ddatblygiad o bwys i’r gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru.  Nid yn unig y bydd yn gwneud ymchwil yng Nghymru yn fwy cystadleuol o fewn y Deyrnas Gyfunol ac yn Rhyngwladol, bydd yn gymorth i hel y math o ddata ymchwil am Gymru a all fod yn wirioneddol ddefnyddiol ac o fudd i bob un o gymunedau Cymru.    

“Am y tro cyntaf bydd Cymru yn gallu ymfalchio mewn canolfan o arbenigedd mewn ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol a fydd yn cefnogi’r Llywodraeth wrth iddi geisio datrys materion economaidd a chymdeithasol yng Nghymru drwy gasglu data gan ddefnyddio’r technegau ymchwil diweddaraf ac ymchwilwyr sydd yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol.”  

Cydlynir y Sefydliad, sydd â chysylltiad agos gyda Chanolfan Genedlaethol Technegau Ymchwil y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, o Brifysgol Caerdydd, a bydd yn gyfrifol am adeiladu’r gallu i wneud gwaith ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru, datblygu cysylltiadau gyda mentrai eraill yn y Deyrnas Gyfunol, a hyrwyddo cydweithio ar draws disgyblaethau a rhwng sefydliadau.  

Bydd yn gweithio ar bedair rhaglen o weithgaredd sydd yn gysylltiedig ac sydd yn golygu astudio setiau data sydd eisoes yn bodoli ac adnabod meysydd lle mae prinder data cymdeithasol, casglu data ar draws Cymru drwy ddefnyddio technegau arloesol, astudio a dadansoddi polisi, ac adeiladu sgiliau ymchwil ar draws Cymru drwy hyfforddiant, rhwydweithio a phenodiadau academaidd. Bydd y sefydliad hefyd yn gobeithio gweithio mwy gyda llunwyr polisi a’r sector breifat drwy ymgynghoriaeth.

Ar hyn o bryd mae’r Sefydliad yn recrwtio 20 ymchwilydd i ymuno â thim o ymchwilwyr sydd yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol ac sydd yn ymwneud â’r fenter newydd hon.

Cyllidwyd y cynllun am bum mlynedd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Dyfarnwyd £492,000 i Brifysgol Aberystwyth.