Canolfan Croesawu Myfyrwyr

Canolfan Croesawu Myfyrwyr

Canolfan Croesawu Myfyrwyr

10 Mehefin 2009

Agorwyd Canolfan Croesawu Myfyrwyr newydd Prifysgol Aberystwyth a fydd yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr gan Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Noel Lloyd.

Mae'r ganolfan newydd, sydd yn cynrychioli buddsoddiad gwerth £1.5m, yn gartref i  wasanaethau allweddol i fyfyrwyr a ddarparwyd hyd yma mewn gwahanol leoliadau ar y campws ac yn y dref.

Mae'r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a swyddfa Derbyn a Recriwtio’r Brifysgol wedi eu lleoli yn y swyddfa. Gyda’u gilydd maent yn cynnig cyngor a chymorth ar gyllid, anabledd. Cymorth dysgu, materion meddygol a iechyd, gwybodaeth am gyrsiau is ac uwchraddedig a chyfleoedd i astudio dramor.  Yn ogystal mae’n ganolbwynt i fyfyrwyr tramor sydd yn astudio yn Aberystwyth.

Yn yr agoriad dywedodd yr Athro Lloyd;
“Mae’r ganolfan newydd hon yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu amgylchedd groesawgar a chymorth effeithiol a fydd yn galluogi’r myfyrwyr i wneud y mwyaf o’u cyfnod mewn prifysgol. Mae’r lleoliad, wrth galon campws Penglais, yn pwysleisio pwysigrwydd cymorth i fyfyrwyr yn y Brifysgol, ac yn golygu fod modd cael at yr holl wasanaethau yn llawer haws nac erioed o’r blaen.”

Y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr yw’r adeilad diweddaraf i’w adnewyddu fel rhan o strategaeth y Brifysgol i wella perfformiad amgylcheddol. Cafodd yr adeilad, a oedd yn arfer cael ei adnabod wrth yr enw Cledwyn Spur, yn y 1960au. Fel rhan o’r gwaith gosodwyd deunydd insiwleiddio allanol, cynteddau drafft, ffenestri gwydr dwbl a goleuo ynni-effeithlon.  

Cip ar y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr

Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr
Y Doctor Arian – gwasanaeth newydd a fydd ar gael o fis Medi 2009 ac yn cynnig cyngor ar hunan reolaeth ariannol, dyled, a chymorth o gronfa argyfwng wrth gefn y Brifysgol.

Anabledd – ystod eang o wasanaethau ar gyfer myfyrwy sydd ag anableddau, gan gynnwys cymorth addysgu ar ffurf cymerwyr nodiadau, trefniadau arholiadau a llety i fyfyrwyr sydd ag anabledd corfforol. 

Cymorth dysgu – sgiliau astudio, rheolaeth amser a chyngor ar ddyslecsia.

Canolfan Iechyd Myfyrwyr – cyngor ar faterion meddygol a iechyd, ffordd o fyw, lles a phwysedd gwaith. Darperir rhai gwasanaethau yn Adeilad Cledwyn.

Cymorth i fyfyrwyr sydd yn wynebu anawsterau.

Cyngor a chymorth ar brosesau’r Brifysgol i ddatrys cwynion.

Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr
Ymholiadau yn ymwneud â ffioedd dysgu, ffioedd llety a bwrsariaethau.

Denu, Derbyn a Marchnata
Cyngor ar gyrsiau israddedig ac uwchraddedig a cheisiadau

Astudio tramor a cyfnewid myfyrwyr – rhaglen Gyfnewid Gogledd America ac Erasmus (UE) a cheisiadau ar gyfer mynediad uniongyrchol Blwyddyn Astudio Tramor / Blwyddyn Iau Tramor (Recriwtio a Chydweithio Rhyngwladol).

Manylion cyswllt allweddol:
Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
01970 621761 / student-support@aber.ac.uk / disability@aber.ac.uk

Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr
01970 621582/3/4 / fees@aber.ac.uk / ffioedd@aber.ac.uk

Denu, Derbyn a Marchnata
01970 622065 / ugadmissions@aber.ac.uk / pg-admissions@aber.ac.uk

Recriwtio a Chydweithio Rhyngwladol
01970 622367 / internationaloffice@aber.ac.uk