Lansio IBERS yn Ewrop

IBERS Gogerddan

IBERS Gogerddan

22 Mehefin 2009

Heddiw (Dydd Llun 22 Mehefin) mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), sydd yn rhan o Brifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer mynd i’r afael â rhai o'r heriau dyrys sydd yn wynebu dynoliaeth yn ei lansiad Ewropeaidd ym Mrwsel.

Bydd Cyn-Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol i’r Cenhedloedd Unedig, Syr Emyr Jones Parry, yn cynnal cyfres o gyfarfodydd lle bydd gwyddonwyr hŷn o IBERS yn cyflwyno eu gwaith, a sut y maent yn anelu i ddarparu atebion cyfannol i’r her fyd-eang o fyw gyda newid yn yr hinsawdd, i gynrychiolwyr o’r Comisiwn Ewropeaidd a’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae sefydlu IBERS yn garreg filltir bwysig i Brifysgol Aberystwyth. Mae’r lansiad ym Mrwsel yn lwyfan pwysig ar gyfer hyrwyddo rhaglen ymchwil eang IBERS a’r cyfraniad sydd gan y sefydliad i’w wneud ym meysydd allweddol ynni adnewyddadwy, diogelu cyflenwadau bwyd a dŵr a heintiau anifeiliaid a phlanhigion.”

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS:
“Tra ein bod yn canolbwyntio ar y problemau sydd yn wynebu amaethyddiaeth a’r amgylchedd yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol a’r Undeb Ewropeaidd o ganlyniad i’r newid cyflym yn yr hinsawdd, mae ein cenhadaeth yn golygu hefyd ein bod yn gweithio er mwyn gwella bywydau pobl sydd yn byw mewn gwledydd sydd yn datblygu, lle mae newid o’r fath yn debygol o gael yr effaith mwyaf.”  

“Rydym o’r farn y gall IBERS wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy fanteisio i’r eithaf ar ystod eang o sgiliau mewn bridio planhigion a geneteg, gwyddoniaeth cynhyrchu anifeiliaid, gwyddoniaeth amgylcheddol, ecolegol a bioamrywiaeth, ynghyd â gwyddorau cymdeithasol sydd yn arbenigo mewn datblygu. Ein gallu i weithio ar draws y meysydd yma sydd yn ein galluogi i gynnig y cyfuniad unigryw hwn o fewn y Deyrnas Gyfunol er mwyn darparu’r atebion cyfannol sydd eu hangen ar lunwyr polisi a phobl sydd yn gweithio yn y maes,” ychwanegodd.   

Trefnwyd y lansiad gan Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel ac mae’n cynnwys cyfarfodydd briffio ar gyfer swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd, cynrychiolwyr o wladwriaethau a rhanbarthau yr Undeb Ewropeaidd, a rhwydweithiau gwyddoniaeth, diwydiant ac academaidd Ewropeaidd.

Fel rhan o raglen y diwrnod bydd Dr Marta Perez-Soba o Brifysgol Wageningen (Yr Iseldiroedd), cyd-awdur adroddiad Pwyllgor Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd ar Ymchwil Amaethyddol, “New challenges for agricultural research”, yn annerch derbyniad ym Mhreswylfa Llysgennad Prydain gyda’r Athro Powell.

Sefydlwyd IBERS ym mis Ebrill 2008 yn dilyn uno Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd i mewn i Brifysgol Aberystwyth. Ar hyn o bryd mae ganddo dros 300 aelod staff, mwy na 1000 o fyfyrwyr israddedig ac ymchwil, a chyllideb flynyddol o dros €30 miliwn.

Mae IBERS yn chwarae rhan mewn dau gynllun ymchwil sydd yn cael eu cyllido gan yr Undeb Ewropeaidd - 'Improving the safety of beef and beef products for the consumer in production and processing (ProSafeBeef)' a 'Innovative and practical management approaches to reduce nitrogen excretion by ruminants (REDNEX)'. Mae’r cynlluniau yma yn derbyn cyfanswm o tua €1 miliwn oddi wrth yr UE.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnolegol a Biolegol (BBSRC), mae IBERS yn buddsoddi €65m, buddsoddiad a fydd yn cynnwys adnoddau ymchwil a dysgu newydd ac o’r radd flaenaf.