Clod gan y Times Higher

Yn y llun, chwith i'r dde; Dr Jo Maddern, Cydlynydd Datblygu Dysgu ac Addysgu, Graham Lewis, Cydlynydd CDSYA, Susan Chambers, Cyfarwyddwraig Adnoddau Dynol, Annette Edwards, Cynorthwyydd Datblygu Staff, a Giles Polglase, Cydlynydd Cynorthwyol CDSYA yn noson Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth y Times Higher Education.

Yn y llun, chwith i'r dde; Dr Jo Maddern, Cydlynydd Datblygu Dysgu ac Addysgu, Graham Lewis, Cydlynydd CDSYA, Susan Chambers, Cyfarwyddwraig Adnoddau Dynol, Annette Edwards, Cynorthwyydd Datblygu Staff, a Giles Polglase, Cydlynydd Cynorthwyol CDSYA yn noson Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth y Times Higher Education.

22 Mehefin 2009

Cafodd Canolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd (CDSYA) Prifysgol Aberystwyth glod am ei gwaith yn noson Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth y Times Higher Education a gynhaliwyd yn ddiweddar yng ngwesty'r Hilton yn Llundain ar y 9ed o Fehefin.

Cafodd y ganolfan, sydd yn rhan o Adran Adnoddau Dynol y Brifysgol, eu chynnwys ar restr fer categori ‘Tim Adnoddau Dynol Neilltuol’ ac fe’u henwebwyd yn y categori ‘Menter Adnoddau Dynol Neilltuol’.

Dywedodd Susan Chambers, Cyfarwyddwr Adnoddau Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’r ganmoliaeth hon yn gydnabyddiaeth genedlaethol o waith CDSYA a’r modd y maent wedi harnesi yr arbenigedd eang ymysg staff, ochr yn ochr gyda arbenigedd allanol, i greu cyrsiau newydd megis y Dystysgrif mewn Cynorthwyo Myfyrwyr,”  

“Mae’r cwrs hwn yn adeiladu ar enw da Prifysgol Aberystwyth fel un o’r gorau yn y Deyrnas Gyfunol am ‘Brofiad Myfyrwyr’ a ‘Bodlonrwydd Myfyrwyr’, enw da sydd wedi ei feithrin drwy sicrhau fod gan aelodau staff y sgiliau angenrheidiol i ymateb yn effeithiol i ystod eang o anghenion myfyrwyr,” ychwanegodd.

Mewn cydweithrediad â Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes y Brifysgol a sefydliadau addysg uwch eraill gan gynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Llambed a UWIC yng Nghaerdydd, mae CDSYA hefyd yn darparu cyrsiau ar gyfer datblygiad proffesiynol staff academaidd megis y Dystysgrif Ôl-radd mewn Dysgu mewn Addysg Uwch sydd yn achrededig gan yr Academi Addysg Uwch ac sydd yn cofrestru tua deugain o aelodau staff academaidd yn flynyddol.  

Tra yn Llundain derbyniodd aelodau o CDSYA a Chyfarwyddwraig Adnoddau Dynol, Susan Chambers, wahoddiad i Dŷ’r Cyffredin gan Mark Williams AS i drafod y gwaith datblygu proffesiynol y maent yn ei wneud yn y Brifysgol.  

Am fanylion pellach cysyllter â: Graham Lewis, gjl@aber.ac.uk
(Cydlynydd y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd).