Cyfarwyddwr newydd Gwasanaethau Gwybodaeth

Rebecca Davies

Rebecca Davies

23 Mawrth 2009

Penodwyd Ms Rebecca Davies, pennaeth presennol Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cynulliad Cymru, i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth.

Enillodd Radd o Brifysgol Aberystwyth mewn Llyfrgellyddiaeth ac Addysg, ac wedyn Dystysgrif Addysg i Raddedigion. Yn dilyn hyn bu'n Lyfrgellydd Nyrsio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Yn 1996 cafodd ei phenodi'n Lyfrgellydd Gwyddoniaeth Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac yna yn 2002 ymunodd ag Adran Rheoli Gwybodaeth Llywodraeth y Cynulliad fel Pennaeth Gwasanaeth Llyfrgell y Cynulliad.

Mae’n aelod o Bwyllgor Gweithredol cangen Cymru o Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth, yn Drysorydd ac Ysgrifennydd i Adran Llyfrgelloedd y Llywodraeth yn Ffederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Llyfrgelloedd, ac yn aelod o fwrdd golygyddol y Journal of Library and Information Studies, a Bwrdd Gwasanaethau Ar-lein ‘Llyfrgelloedd am Oes’.

Mewn ymateb i’w phenodiad dywedodd Rebecca:
“Mae Prifysgol Aberystwyth wedi newid yn sylweddol ers fy nyddiau i yno fel myfyrwraig, ac mae’n fraint cael fy mhenodi i weithio mewn sefydliad sydd yn uchelgeisiol ac yn tyfu, o safbwynt ymchwil a nifer y myfyrwyr.”

“Rwy’n edrych ymlaen at gael defnyddio’r profiad rwyf wedi ei fagu yn ystod y 7 mlynedd o weithio i Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn datblygu ymhellach y gwasanaethau gwybodaeth er lles y staff, y myfyrwyr a’r gymuned ehangach yn Aberystwyth. Fues i erioed mor gyndyn o adael un swydd, ac eto wedi fy nghyffroi gymaint gan her swydd newydd.”

Bydd Rebecca yn dechrau ar y swydd ar y 18fed o Fai ac yn cymryd lle Dr Michael Hopkins sydd yn ymddeol wedi 14 blynedd o wasanaeth.

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau’r llyfrgelloedd, cyfrifiaduron a chyfryngau i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ac mae o ddeutu 150 yn gweithio yno. Mae’r gwasanaeth yn rhedeg 5 llyfrgell, sef Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol ar gampws Penglais, Llyfrgell Thomas Parry yn Llanbadarn, Llyfrgell Stapledon ym Mhlas Gogerddan a Llyfrgell yr Hen Goleg, ac yn rheoli rhwydwaith o dros 20 ystafell sydd yn cynnwys mwy na 650 o gyfrifiaduron ac offer perthynol at ddibenion myfyrwyr.