Eisteddle pêl-droed

Teulu Gareth ac aelodau staff o'r Brifysgol yn yr agoriad.

Teulu Gareth ac aelodau staff o'r Brifysgol yn yr agoriad.

30 Mawrth 2009

Cafodd yr eisteddle newydd sydd yn sefyll wrth ymyl cae chwarae tîm pêl-droed y Brifysgol ar gaeau chwarae'r Ficerdy ei hagor yn swyddogol ddydd Sul 29 Mawrth gan Anne a Trefor Thomas er cof am ei mab, Gareth Llywelyn Thomas, a fu farw yn sydyn ym mis Chwefror 2007 o ganlyniad i gyflwr etifeddol ar ei galon.

Yn ogystal ag Anne a Trefor a'u merch Sian a’i phartner Andy, daeth y Dirprwy Is-Ganghellor Dr John Harries, Cyfarwyddwr Canolfan Chwaraeon PA a rheolwr tîm pêl droed cyntaf y Brifysgol Mr Frank Rowe, a nifer o aelodau staff, ffrindiau, a chynrychiolwyr o dîm cyntaf y Brifysgol ynghyd ar gyfer y seremoni a gafodd ei chynnal cyn gem y tîm yn erbyn Penparcau.

Graddiodd Gareth, a oedd yn beldroediwr brwd, mewn Gwleidyddiaeth Rhyngwladol a’r Gyfraith yn 2006. Cafwyd yr eisteddle ei hadeiladu yn sgil cyfraniadau hael gan ei deulu a chyllid gan Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru a Chanolfan Chwaraeon y Brifysgol.

Mae mam Gareth, Anne, bellach yn cynrychioli’r elusen Cardiac Risk in the Young yn ne Cymru, neu CRY (http://www.c-r-y.org.uk/) fel y mae’n cael ei hadnabod. Mae ei chofnod hi o farwolaeth Gareth ar y wefan  http://www.c-r-y.org.uk/thomas_my_story.htm.