Menter newid hinsawdd newydd

Ia

27 Tachwedd 2009

Cyhoeddodd Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe heddiw eu bod yn lansio Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W). Mae'r fenter £4 miliwn hon yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

 chymorth ychwanegol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a buddsoddiad sylweddol gan y pedair prifysgol, mae C3W yn sicr o roi hwb sylweddol i broffil gwyddoniaeth hinsoddol Cymru.

Datblygwyd y Consortiwm gan grŵp o academyddion sy’n uchel eu parch ar y llwyfan rhyngwladol, gyda chydweithrediad â staff mewn ystod eang o ddisgyblaethau yn y pedair prifysgol. Ymhlith y disgyblaethau hyn mae effaith newid hinsawdd ar y tir, y môr, yr atmosffer a’r cryosffer, ynghyd â’r goblygiadau cymdeithasol.

Nodau C3W yw (i) gwella ein dealltwriaeth sylfaenol ynghylch yr hyn sy’n achosi newid hinsawdd, ei natur, ei amseriad a’i oblygiadau o ran amgylchfyd y blaned hon a’r ddynoliaeth, a (ii) ad-drefnu ymchwil hinsoddol yng Nghymru fel y bydd yn ganolfan ragoriaeth ac iddi broffil uchel ar y llwyfan rhyngwladol.

Bydd C3W yn rhoi canolbwynt i oddeutu 200 o staff academaidd yn y pedair prifysgol sy’n gweithio ym maes newid yn yr hinsawdd, bydd yn annog cydweithredu ffurfiol rhwng y prifysgolion a bydd yn cryfhau’r rhwydwaith o bartneriaid yn y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol sydd eisoes wedi’i sefydlu. Y bwriad yw creu sail i’r broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â dyfodol cynaliadwy i Gymru, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf berthnasol i ysgolion, prifysgolion, busnesau a’r cyhoedd, fel y gallwn ni oll wneud dewisiadau doeth ynglŷn â’n ffordd o fyw yn y dyfodol.

Mae C3W wedi targedu pedair ‘Her Fawr’ y mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw drwy weithio mewn ffordd ryngddisgyblaethol: Modelu systemau’r ddaear; y newid yn lefel y môr; gwerthuso peryglon, eu lliniaru ac ymaddasu atynt; a’r dimensiwn newid hinsawdd yma yng Nghymru. 

Mae sawl menter gydweithredol eisoes ar y gweill, gan gynnwys asesiad o sefydlogrwydd Llen Iâ’r Ynys Las sy’n mynd i gyfrannu at y cynnydd yn lefelau’r môr yn y dyfodol, ac asesiad o’r modd y gall cofnod gwaddodol Cefnfor Gogledd yr Iwerydd roi gwybodaeth inni ynglŷn â’r modd y bydd yr hinsawdd yn ymateb i newidiadau o ran cylchrediad cefnforol yn y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Y rhesymeg sy’n sail i’r C3W yw’r angen i gydnabod bod newid hinsawdd yn fater byd-eang o bwys. Mae consensws gwyddonol, yn benodol ymhlith aelodau o Banel Rhynglywodraethol Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (IPCC, 2007), fod cynhesu byd-eang a achosir gan ddyn yn realiti a’i fod yn prysur arwain at ganlyniadau na fydd modd gwneud dim yn eu cylch, megis tywydd eithafol, newidiadau o ran patrymau sychder a chynnydd yn lefelau’r môr.

“Cydnabyddir hefyd bod rhai o’r proffwydoliaethau sy’n ymwneud â chanlyniadau newid hinsawdd yn dod yn wir yn gynt na’r hyn a nodir yn adroddiad yr IPCC, ac mae Adroddiad Stern Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi rhoi sylw i oblygiadau ariannol peidio â gweithredu. Bydd yr ymchwil a gynhelir gan wyddonwyr C3W o fudd uniongyrchol i ymdrechion i ddatblygu gwell cynaliadwyedd.”

Dywedodd Dr David Grant, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae’r agenda newid hinsawdd  yn rhywbeth y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef ar fyrder a bydd yn dylanwadu ar sylfaeni bywyd nifer o bobl o gwmpas y byd. Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn ymwneud ag un o brif feysydd ymchwil ar y cyd sy’n canolbwyntio ar ynni carbon isel a defnyddio ynni’n effeithlon. Bydd ein haelodaeth o C3W yn chwarae rhan fawr yng nghyfraniad y Brifysgol tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy inni gyd a rhaglen ymchwil fwy cydweithredol, amlddisgyblaethol ar draws Cymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’i oblygiadau.

Dywedodd yr Athro Merfyn Jones, Is Ganghellor Prifysgol Bangor: “Yn y blynyddoedd diweddar mae Bangor wedi datblygu proffil enwedig o gryf yng ngwyddoniaeth newid yn yr hinsawdd. Mae menter C3W yn adeiladu ymhellach ar seiliau gwaith cydnabyddedig y grwpiau ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Naturiol, yn ogystal â’r gwaith ar y cyd â’n partner yn y Cyngor Ymchwil i’r Amgylchedd Naturiol, sef Canolfan Ecoleg a Hydroleg yng Nghanolfan Amgylchedd Cymru. Bydd y gwaith cydweithredol hwn, sy’n cynnwys Cymru gyfan, yn hyrwyddo gwyddoniaeth ar newid yn yr hinsawdd ledled y wlad ac yn rhyngwladol."

Dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, “Mae’n rhaid i ymchwil i newid yn yr hinsawdd fynd i’r afael â heriau anferth, ac er mwyn gwneud cynnydd sylweddol bydd angen timoedd mawr a dulliau amlddisgyblaethol o weithio. Rhaid i’r Consortiwm anelu at ddim byd llai na sefydlu Cymru fel canolfan fydd yn arwain y byd ar ymchwil i newid yn yr hinsawdd. 

"Drwy ddod ag arbenigedd gwahanol o Fôn i Fynwy at ei gilydd, gydag arian ychwanegol oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad, byddwn ni’n creu’r momentwm sydd ei angen. Bydd ymchwilwyr o bob rhan o gampws Abertawe yn cynorthwyo C3W, gan gynnwys rhewlifegwyr, biolegwyr y môr, modelwyr hinsoddol, cyfreithwyr, peirianwyr, ac arbenigwyr ar heneiddio. Rydym yn enwedig o frwd ynghylch yr ymdrechion i estyn allan i’r ysgolion, y cyhoedd, a’r cymunedau busnes ledled Cymru."

Mae’r pedair prifysgol yn bartneriaid cyfartal yn y fenter hon, ac Aberystwyth sy’n ymgymryd â’r gwaith cydlynu. Mae materion newid hinsawdd yn cael sylw gan academyddion Cymreig yng Nghymru a phedwar ban byd, o’r Antarctig, drwodd i’r trofannau i’r Arctig, ac o’r tir i’r cefnforoedd dyfnion. Gyda’i gilydd, mae ganddynt bersbectif byd-eang a all ddylanwadu ar ein cynlluniau ni i gyd i’r dyfodol.

Mae cychwyn C3W yn cyd-daro â Chynhadledd Newid Hinsawdd hollbwysig y Cenhedloedd Unedig yng Nghopenhagen (7-18 Rhagfyr). Mae cyllid wedi’i sicrhau am bum mlynedd, ond y gobaith yw y bydd C3W yn ei ariannu’i hun wedi hynny.