Bwrsariaeth meddalwedd

Y myfyriwr blwyddyn olaf Sam Thomas yn derbyn Bwrsariaeth Portaltech oddi wrth Paul Tough.

01 Hydref 2009

Dydd Iau 1 Hydref

Portaltech yn cefnogi cenhedlaeth newydd o peirianwyr meddalwedd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Portaltech, un o gwmnïoedd e-Fasnach blaenllaw y Deyrnas Gyfunol, yn cyllido bwrsariaeth newydd ar gyfer myfyrwyr cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Sefydlwyd Portaltech yn 1999 gan ddau gyn-fyfyrwyr o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, Andrew Walker a Paul Tough.

Bellach mae gan y cwmni rhestr drawiadol o gwsmeriaid sydd yn cynnwys The Body Shop, Y Post Brenhinol. Long Tall Sally, Premier Farnell, Sony a Vodafone, a swyddfeydd yn Llundain, California a Mumbai.

Ddydd Iau 1af Hydref dychwelodd Paul Tough i'w alma mater i gyflwyno y Fwrsariaeth Myfyrwyr Potaltech gyntaf i'r myfyriwr blwyddyn olaf Sam Thomas.

Yn wreiddiol o Bontypridd, mae Sam yn astudio ar y radd MEng Peirianneg Meddalwedd. Fel rhan o’i waith blwyddyn olaf mae’n paratoi traethawd estynedig ar brosesu delweddau meddygol.

Dywedodd Sam “Rwy’n falch iawn ym mod yn derbyn Bwrsariaeth Myfyrwyr Portaltech, mae’r cyfan mor annisgwyl. Mae fy amser yn yr Adran Gyfrifiadureg wedi fy mharatoi yn dda iawn ar gyfer ymuno gyda’r byd ‘go iawn’ a bydd yr arian o’r wobr hon yn gymorth mawr gyda costau astudio yn y brifysgol.”  

Mae Bwrsariaeth Myfyrwyr Portaltech yn adeiladu ar berthynas waith wych sydd wedi datblygu rhwng y cwmni a’r adran. Er pedair blynedd mae’r adran wedi bod yn cyflogi israddedigion o’r Adran Gyfrifiadureg fel rhan o raglen lleoliadau gwaith mewn diwydiant.

Cafodd safon y profiad gwaith sydd yn cael ei gynnig gan Portaltech ei gydnabod yn 2008 pan dderbyniodd y cwmni glod uchel yng Ngwobrau Cyngor Cenedlaethol Profiad Gwaith 2008 yn y categori Darparwr Profiad Gwaith Gorau: Cynlluniau Lleoliadau Newydd.   

Dywedodd Dr Fred Long, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yr Adran Gyfrifiadureg “Mae’r Adran yn ddiolchgar iawn i Portaltech am ei cefnogaeth dros y blynyddoedd. Mae gweld graddedigion o Aberystwyth yn mynd ymlaen i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus tra’n cynnal cysylltiadau  gyda’r Adran yn destun cryn foddhad i ni.”

“Mae Andrew a Paul wedi mynd a hyn gam ymhellach. Drwy gyllido Bwrsariaeth Myfyrwyr Portaltech maent yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o raddedigion ac yn cynnig y cyfle iddynt ddatblygu’r sgiliau fydd y werth iddynt yn eu gyrfaoedd,” ychwanegodd.

Mae’r fwrsariaeth werth £1000 ac yn cael ei chyflwyno i’r myfyriwr gorau ar y cwrs MEng Peirianneg Meddalwedd ar sail perfformiad yn eu blwyddyn olaf ond un.

Yn ôl Ymarfer Asesiad Ymchwil 2008 yr Adran Gyfrifiadureg oedd yr orau yn ei maes yng Nghymru ac un o’r gorau ym Mhrydain. Roedd 10% o’r ymchwil yno yn cael ‘cydnabyddiaeth rhyngwladol’ a 70% unai o ‘safon byd-eang’ neu ‘rhagoriaeth rhyngwladol’. 

Mae gan yr Adran enw da iawn am fodlonrwydd myfyrwyr. Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2009 roedd 86% o’r myfyrwyr yn fodlon gyda’r adran. Roedd Prifysgol Aberystwyth yn gydradd 6ed yn y Deyrnas Gyfunol gyda chanran bodlonrwydd o 90%.