Canolfan iechyd myfyrwyr a meithrinfa newydd

Campws Penglais

07 Medi 2009

Dydd Llun 7 Medi 2009
Canolfan iechyd myfyrwyr a meithrinfa newydd

Bydd Canolfan Iechyd Myfyrwyr a meithrinfa yn rhan o ddatblygiad canolfan gofal cynradd a fydd yn cael ei hadeiladu ar dir y Brifysgol, gyferbyn â Neuadd Pantycelyn.

Cyhoeddwyd cynllun i gyllido'r datblygiad, a fydd hefyd yn gartref newydd ar gyfer Meddygfa Padarn, fferyllfa ac o bosibl gwasanaethau a ddarperir gan Ymddiriedolaeth GIC Hywel Dda, gan Weinidog Iechyd y Cynulliad Cenedlaethol, Edwina Hart.

Bydd y Ganolfan Iechyd Myfyrwyr, sydd ar hyn o bryd wedi ei lleoli yn Adeilad Cledwyn ar gampws Penglais, yn darparu gwasanaetha nyrs a meddyg cyffredinol ac yn gyfrifol am gydlynu gwaith hyrwyddo iechyd a lles cyffredinol er mwyn taclo materion megis iechyd rhiw, rheoli pwysau gwaith a byw yn iach.

Ar hyn o bryd mae meithrinfa'r Brifysgol yn darparu gofal ar gyfer plant hyd at 4 oed yn Glenview ac mae uned babanod yn Neuadd Rosser. Mewn adroddiad gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru cafodd y feithrinfa glod mawr am safon y staff a’r amgylchedd ddysgu a ddarperir yno.

Dywedodd Dr John Powell, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr;
“Yn sgil y datblygiad hwn bydd Aberystwyth yn un o’r ychydig brifysgolion yn y Deyrnas Gyfunol sydd â’i chanolfan iechyd ei hun ar y campws. Mae’n tanlinellu ymrwymiad y Brifysgol i iechyd a lles myfyrwyr ac yn fuddsoddiad pwysig ar gyfer y dyfodol.”

“Rydym yn arbennig o falch fod meithrinfa bwrpasol yn rhan o’r cynllun gan fod y gwasanaeth o bwys mawr i rieni sydd yn gweithio ac er mwyn cymell y rhai sydd â chyfrifoldebau rhieni i ddychwelyd i addysg llawn amser,” ychwanegodd.

Pwysleisia Dr Powell taw gwasanaeth sydd yn ychwanegol at yr hyn y mae meddygon teulu yn ei ddarparu fydd yn cael ei gynnig gan y ganolfan. Bydd angen i bob myfyriwr gofrestru gyda Meddyg Teulu lleol (yn ardal Aberystwyth) ar gyfer gwasanaethau meddygol a phrescriptiwn.  

Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau yn yr hydref a’i orffen erbyn Ebrill 2011.