Aberystwyth yn arwain ar fodlonrwydd myfyrwyr

16 Medi 2009

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi perfformio'n wych yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf, yn 6ed o holl brifysgolion y Deyrnas Gyfunol ac ar y brig yng Nghymru am y bumed flwyddyn yn olynol.

Canolfan iechyd myfyrwyr a meithrinfa newydd

07 Medi 2009

Bydd canolfan iechyd myfyrwyr a meithrinfa yn rhan o ddatblygiad canolfan gofal cynradd a fydd yn cael ei hadeiladu ar dir y Brifysgol, gyferbyn â Neuadd Pantycelyn.

Cysylltiadau Alumni

15 Medi 2009

Penodwyd Julian Smyth i swydd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni. Mae'n ymuno â'r Brifysgol o gwmni codi arian ASK Associates.

Y flwyddyn recriwtio orau erioed

23 Medi 2009

Mae Aberystwyth wedi mwynhau'r flwyddyn recriwtio orau erioed gyda nifer ceisiadau i fynny 16%. Mae'r Brifysgol yn paratoi i groesawu 2,700 o las-fyfyrwyr ddiwedd yr wythnos hon.

Gwobr sustemau niwlog

28 Medi 2009

Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electronaidd yn gwobrwyo papur sydd yn cyflwyno damcaniaeth arloesol newydd ar resymu rhyngbegynol niwlog (fuzzy interpolative reasoning).

Estyniad i adeilad Carwyn James

07 Medi 2009

Gwaith yn dechrau ar adeiladu estyniad gwerth £1.3m i Adeilad Carwyn James, cartref yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.