Cysylltiadau Alumni

Mr Julian Smyth

15 Medi 2009

Dydd Mawrth 15 Medi

Prifysgol Aberystwyth yn penodi Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni

Penodwyd Julian Smyth i swydd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth.

Mae Julian yn ymuno â'r Brifysgol o gwmni codi arian ASK Associates lle roedd yn Brif Ymgynghorydd. Yn ystod gyrfa sydd yn ymestyn dros bron i 20 mlynedd yn y maes codi arian mae wedi gweithio i The LandAid Charitable Trust, Ymddiriedolaeth Ysgol Sherborne yn Dorset, Ymddiriedolaeth Bradfield, Coleg Linacre Rhydychen a'r Gymdeithas Frenhinol i Bobl Fyddar.

Wedi graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Nottingham aeth ymlaen i astudio cyfansoddi gyda Edward Cowie ym Mhrifysgol Lancaster. Yn dilyn hyn bu’n gweithio fel Rheolwr ar Gerddorfa Ulster, Cerddorfa Symffoni Bournemouth a Cherddorfa Symffoni Llundain. Mae wedi dychwelyd i fyd cyfansoddi yn ddiweddar ac mae’n disgrifio ei arddull fel ‘clasurol modern’ a “rhamantiaeth haniaethol”.  

Dywedodd Julian;
“Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig profiad prifysgol rhyfeddol. Un prifysgol arall yn y Deyrnas Gyfunol sydd yn ennyn mwy o gynhesrwydd tuag ati gan gyn-fyfyrwyr, yr alumni, sef St Andrews.”  

“Adeiladwyd Prifysgol Aberystwyth i raddau helaeth ar haelioni, llawer ohono gan bobl gyffredin. Yn 1875, dair blynedd wedi sefydlu’r Brifysgol, dynodwyd y Sul olaf ym mis Hydref yn “Sul y Brifysgol” gan gapeli drwy Gymru a cafodd y casgliadau ei rhoi i’r Coleg yn Aberystwyth. Codwyd £3,100 diolch i gyfraniad dros 70,000 o bobl gyffredin.  Am y ddeuddeng mlynedd gyntaf o’i bodolaeth, cefnogaeth o’r math yma a alluogodd i’r brifysgol oroesi.”  

“Ein nod fydd adeiladu ar y traddodiad anrhydeddus hwn er budd cenedlaethau o fyfyrwyr Aberystwyth i’r dyfodol”, ychwanegodd.
Yn y dyfodol agos bydd y swyddfa Ddatblygu a Chysylltiadau Alumni yn canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau mwy cyson ac ehangach gyda alumni Aber, ac adeiladu ar y rhwydwaith eang o gymdeithasau cyn-fyfyrwyr sydd i’w gweld ym mhedwar ban byd. 

Ym mis Tachwedd bydd y Brifysgol yn lansio ei hymgyrch godi arian flynyddol gyntaf, a’r nod fydd cefnogi cynlluniau a fydd o fudd i’r myfyrwyr presennol. I gyd-fynd gyda hyn bydd Siarter Rhoddwyr yn cael ei chyhoeddi fydd yn gosod hawliau cyfranwyr i gael gwybod sut mae eu cyfraniadau yn cael eu defnyddio a’u cydnabod mewn modd priodol.

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gymell mwy o gyn-fyfyrwyr a chyfeillion i adfywio eu cysylltiadau gyda’r Brifysgol a chyd-gynfyrywyr drwy gyfrwng gwasanaethau ar-lein.

Croesawyd y penodiad gan yr Athro Noel Lloyd.
“Mae ymrwymiad cyn-fyfyrwyr y Brifysgol a’u diddordeb yn natblygiad y sefydliad yn un o nodweddion pennaf Prifysgol Aberystwyth. Mae penodiad Julian yn arwydd o ymrwymiad pendant y Brifysgol i ddatblygu’r berthynas gyda’r cyn-fyfyrwyr ymhellach.” 

“Ers ei sefydlu mae cyn-fyfyrwyr y Brifysgol wedi chwarae rhan bwysig iawn yn ei datblygiad, ac o ganlyniad i gyfraniadau pobl Cymru a rhai unigolion hael tyfodd yn brifysgol lwyddiannus.”

"Gyda phenodiad Julian rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y cyfeillgarwch gyda’r cyn-fyfyrwyr, Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, a’r gymuned ehangach, er budd pawb sydd yn gysylltiedig gydag Aberystwyth”, ychwanegodd.

Tim Datblygu a Chysylltiadau Alumni

Mr Julian Smyth, Cyfarwyddwr.

Mrs Louise Perkins, Rheolwr Cysylltiadau Alumni.
Ymunodd Louise, cyn-fyfyrwraig o Aber, â’r Brifysgol ychydig dros ddeuddeng mlynedd yn ôl fel Swyddog Alumni. Hi yw’r pwynt cyswllt cyntaf a’r trefnydd ar gyfer holl weithgaredd cysylltiadau cyn-fyfyrwyr y Brifysgol. Hi hefyd yw Ysgrifennydd Cymdeithas y Cynfyfyrwyr. 

Dr David Currie, Rheolwr Cronfa Ddata
Ymunodd David â’r Adran Datblygu a Chysylltiadau Alumni ym mis Mai 2009. Yn raddedig o Goleg Penfro Rhydychen, yn ddiweddar derbyniodd ei ddoethuriaeth o Adran Gyfrifiadureg Aberystwyth. Mae David yn gyfrifol am reoli cronfa ddata alumni’r Brifysgol.  

Miss Cheryl Hughes, Ymchwilydd Rhagolygon.
Ymunodd Cheryl â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Mai 2009. Yn raddedig o Brifysgol Briste, mae hi’n brofiadol iawn yn y gwaith o chwilio am gysylltiadau a allai fod o fudd i’r Brifysgol.

Alwena Moakes-Hughes, Swyddog Alumni Rhyngwladol.
Ymunodd Alwena gyda’r Brifysgol ym mis Mai 2009 o gwmni cysylltiadau cyhoeddus Francis Balsom Associates. Mae’n gyn-fyfyrwraig ac yn gyfrifol am hwyluso gwaith cymdeithasau alumni Aber ar draws y byd. Mae’n rhannu ei hamser rhwng y swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni a’r swyddfa Recriwtio a Chydweithio Rhyngwladol.