Y flwyddyn recriwtio orau erioed

Yr Hen Goleg

23 Medi 2009

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi mwynhau'r flwyddyn recriwtio orau erioed. Mae'r Brifysgol yn paratoi i groesawu 2,700 o las-fyfyrwyr pan fydd yn ailymgynnull ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ar ddiwedd yr wythnos hon – cynnydd o 12.5% ar 2008.  

O fewn ychydig oriau i gyhoeddi canlyniadau Safon Uwch ac AS ar yr 20ed o Awst roedd pob lle yn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn llawn. Cafwyd cystadlu dwys am le gyda nifer y ceisiadau i fyny 16%, cynnydd sydd yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y Deyrnas Gyfunol. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol lle mae nifer y ceisiadau wedi codi yn sylweddol.

Cafwyd perfformiad cryf eleni ym mhob maes – y Celfyddydau, y Gwyddorau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Bu’r cynnydd yn gryf mewn pynciau lle mae Aberystwyth wedi bod yn gryf yn draddodiadol megis Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Daearyddiaeth, Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ac Addysg, ond gwelwyd cynnydd hefyd mewn pynciau academaidd newydd megis Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Seicoleg.

Gwnaeth y Brifysgol yn arbennig of dda mewn Cyfrifiadureg, Ffiseg a Mathemateg, pynciau STEM ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sydd yn dewis astudio yn Aberystwyth, i fyny 32% yn achos myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad mae Aberystwyth yn arwain y farchnad yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr o Wlad Pwyl, Bwlgaria, Norwy a Malaysia.  

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth "Mae’r galw eithriadol am lefydd yma yn brawf o’r adnoddau academaidd a’r awyrgylch astudio o safon uchel sydd i’w cael yma yn Aberystwyth. Rwyf yn arbennig o fodlon fod y cynnydd hwn i’w weld ar draws y ddarpariaeth gyfan.”

“Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Bodlonrwydd Myfyrwyr 2009, sydd yn gosod Aberystwyth yn gydradd 6ed o holl brifysgolion y Deyrnas Gyfunol, yn tanlinelli y profiad myfyrwyr gwych sydd i’w gael yma. Mae’r ffaith taw Aberystwyth yw’r Brifysgol campws orau yng Nghymru am y bumed flwyddyn yn olynol yn destun balchder mawr i bawb sydd yn gysylltiedig â hi, ac rydym yn falch iawn fod cymaint o bobl ddawnus yn mynd i fod yn astudio gyda ni eleni.”