Gwobr sustemau niwlog

Yr Athro Qiang Shen

28 Medi 2009

Dydd Llun 28 Medi 2009

Gwobr sustemau niwlog

Dyfarnwyd Gwobr Papur Nodedig Cymdeithas Deallusrwydd Cyfrifiadol i'r Athro Qiang Shen o'r Adran Gyfrifiadureg am bapur yn IEEE Transaction on Fuzzy Systems, cyfnodolyn Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electronaidd (Institute of Electrical and Electronics Engineers (IEEE)).

Cafodd y wobr, y bwysicaf gan gyhoeddiad rhyngwladol ym maes Deallusrwydd Cyfrifiadol, ei chyflwyno i’r Athro Shen yn ystod Cynhadledd Rhyngwladol ar Sustemau Niwlog ar ynys Jeju, De Corea, ddiwedd mis Awst. Caiff enwebiadau ar gyfer y wobr hon eu gwneud yn ddi-enw gan ymchwilwyr blaenllaw yn y maes.

Cyhoeddwyd y papur ‘Fuzzy interpolative reasoning via scale and move transformations’ yn Transactions on Fuzzy Systems, 14(2):340-359, ym mis Ebrill 2006. Y ddau awdur oedd yr Athro Shen a chyn fyfyriwr iddo tra’r oedd ym Mhrifysgol Caeredin, Zhiheng Huang.

Mae gwaith yr Athro Shen yn canolbwyntio ar ddatblygu sustemau cyfrifiadurol sydd yn dynwared sut mae pobl yn barnu sefyllfaoedd, ac yn eu galluogi i brosesu gwybodaeth sydd yn cael ei ddisgrifio mewn termau annelwig – megis a yw person yn dal, yn fyr, yn denau neu’n grwn.

Mae’r sustemau yma yn cael eu defnyddio mewn amryw o feysydd, o gynorthwyo asiantaethau’r gyfraith i daclo troseddu cyfundrefnol megis y fasnach gyffuriau a’r fasnach mewn pobl, i reoli peiriannau a proffilio cwsmeriaid archfarchnad.  

Yn y papur mae’r Athro Shen a Zhiheng Huang yn cyflwyno damcaniaeth arloesol ar gyfer rhesymu rhyngbegynol niwlog. Mae’r gwaith yn lleihau cymhlethdod modelau niwlog ac yn ei gwneud yn bosibl i ddod i gasgliad gan ddefnyddio sustemau niwlog sydd yn delio gyda gwybodaeth brin. Mae’r term ‘fuzzy’ neu niwlog yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at natur annelwig yr wybodaeth.

Cynhelir sesiwn arbennig ar waith ymchwil sydd yn berthnasol i’r ddamcaniaeth a gyflwynwyd gan yr Athro Shen yn ystod Cyngres Byd ar Ddeallusrwydd Cyfrifiadol a fydd yn cael ei chynnal yn Barcelona yn 2010.