Gwahoddiad gweinidogol

Yr Athro Wayne Powell

Yr Athro Wayne Powell

12 Ionawr 2011

Mae’r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth, wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â Grŵp Cynghori ar Fusnes Cymru a sefydlwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Mynychodd yr Athro Powell gyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan, yn Tŷ Gwydyr, Llundain, ym mis Rhagfyr.

Sefydlwyd y grŵp gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i edrych ar yr amgylchedd busnes yng Nghymru a gwrando ar safbwyntiau arweinwyr busnes Cymru. Bydd yr wybodaeth yn cael ei anfon ymlaen at Grŵp Cynghori ar Fusnes y Deyrnas Unedig, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog.

Croesawodd Mrs Gillan a’r Gweinidog o Swyddfa Cymru David Jones gynrychiolwyr o bob rhan o’r sbectrwm busnes yng Nghymru i glywed eu barn am amgylchedd busnes Cymru o lygad y ffynnon.

Meddai Mrs Gillan: “Ni allai’r grŵp hwn fod wedi cael ei ffurfio ar adeg fwy addas, yn dilyn ffigurau diweddar sy’n cadarnhau bod Cymru wedi cwympo ymhellach tu ôl i weddill y Deyrnas Unedig o ran ffyniant, a bod nifer o ardaloedd tlotaf y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yng Nghymru.

“Yn y cyfarfod cychwynnol hwn roeddwn am ganolbwyntio ar yr hyn y mae aelodau’r Grŵp Cynghori yn credu yw prif gryfderau a gwendidau’r amgylchedd busnes yng Nghymru, a sut gallwn adeiladu i sicrhau twf yn y dyfodol.

“Mae’r Grŵp Cynghori ar Fusnes yn fy ngalluogi i drafod sut mae busnesau Cymru’n ymdopi ‘ar lawr gwlad’, ac mae’n rhoi cyfle i’r rhai sy’n mynychu’r cyfarfod i rannu’r materion sydd, yn eu barn nhw, yn effeithio ar yr economi yng Nghymru, ac sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu busnesau.”

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Tra bod yna arwyddion bod y sefyllfa ddiweithdra yng Nghymru yn dechrau gwella, bu cynnydd dramatig mewn diweithdra ymysg pobl ifanc ledled Cymru o dan y Llywodraeth flaenorol, ffaith sy’n ein hatgoffa pam ei fod mor bwysig ein bod yn gallu darparu swyddi i bobl ifanc.”

Roedd mynychwyr y cyfarfod yn cynnwys:

  • David Rosser, CBI Cymru
  • Russell Lawson, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru
  • Steve Thomas, Airbus
  • Phil Orford, Fforwm Busnesau Preifat
  • Dylan Jones Evans, Prifysgol Cymru
  • Graham Hillier, Toyota
  • Colin Orr Burns, Dragon LNG
  • Yr Athro Stuart Cole, Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru
  • Yr Athro Wayne Powell, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth
  • Paul Gorin, Smart Solutions Recruitment

Cytunodd yr aelodau y dylai’r Grŵp Cynghori ar Fusnes gyfarfod yn chwarterol, gyda’r cyfarfod nesaf ym mis Mawrth.

AU11/11