Galw pob Aber-preneur!

Tony Orme, Rheolwr Menter Prifysgol Aberystwyth, (penglinio, canol) gyda staff a myfyrwyr a fynychodd Wythnos Cychwyn Busnes 2010.

Tony Orme, Rheolwr Menter Prifysgol Aberystwyth, (penglinio, canol) gyda staff a myfyrwyr a fynychodd Wythnos Cychwyn Busnes 2010.

18 Mai 2011

Cynhelir Wythnos Cychwyn Busnes Prifysgol Aberystwyth ar y campws o ddydd Llun 6 –Gwener 10 Mehefin 2011. 

Bydd yr digwyddiad hwn yn gyfle ardderchog i staff, myfyrwyr a graddedigion gymryd rhan mewn gweithdai sgiliau busnes hanfodol yn RHAD AC AM DDIM.

Os oes gennych syniad busnes yr hoffech ei roi ar waith, neu ddiddordeb mewn datblygu’ch sgiliau mentergarwch, beth am ymuno â ni am un neu fwy o’r gweithdai? Bydd y sesiynau’n trafod themâu yn cynnwys: Cynllunio Busnes, Ymchwil Marchnad, Cynllunio Ariannol ac E-Farchnata. 

“Yn ogystal â phecyn hyfforddi sgiliau busnes hanfodol, mae’r Wythnos Cychwyn Busnes yn cynnig cyfleoedd ardderchog i unigolion rwydweithio a chwrdd â mentergarwyr o’r un anian, ac i adeiladu rhwydwaith cymorth y gallant ei ddefnyddio wrth ddatblygu eu syniad busnes.” 

Tony Orme, Rheolwr Menter, Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori.

AU11311