Her Apiau Symudol

Her Apiau Symudol 2011

Her Apiau Symudol 2011

01 Mehefin 2011

‘Her Apiau Symudol 2011’ Prifysgol Aberystwyth

Ydych chi wedi cael syniad arloesol am ap ar gyfer ffonau deallus neu’r iPad? Ydych chi eisoes yn gweithio ar feddalwedd neu a oes gennych syniad am ap yr hoffech ei ymchwilio ymhellach?  Mae Tîm Trosglwyddo Technoleg y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori (GMY) wedi lansio ‘Her Apiau Symudol 2011’ ar gyfer staff a holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Mae’r her apiau yn cynnwys dau gategori, a dyfernir gwobrau am yr ap/ syniad am ap mwyaf dyfeisgar ac addawol yn fasnachol.

Yr unig beth sydd angen i chi wneud i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yw llenwi ffurflen gais a’i hanfon at GMY erbyn 15 Gorffennaf 2011.

Categorïau Gwobrwyo:                                    

  1. Syniad am ap newydd

Oes gennych syniad neu gysyniad am ap newydd sbon? Ydych chi wedi bod yn meddwl am hyn ers tro ond heb ddilyn eich greddf? Efallai nad datblygu meddalwedd yw eich maes, ond bod gennych syniad addawol yr hoffech ei weld yn cael ei ddatblygu? Os felly, dyma’r categori i chi. Dywedwch wrthym am eich cysyniad a phwy fyddai’n debygol o lawr lwytho’ch ap!

 Gwobr: ipad2* a chefnogaeth i ddatblygu a lansio’ch ap

  1. Meddalwedd arloesol i’w ddatblygu i greu ap

A ydych chi eisoes wedi creu meddalwedd a allai gael ei ddatblygu’n ap neu’n algorithm newydd? Ydych chi wedi ysgrifennu côd mewn iaith a allai gael ei gymhwyso ar gyfer platfform naill ai Apple neu Android? Os oes gennych feddalwedd sydd eisoes yn bodoli a allai gael ei ddatblygu ymhellach i greu Ap, dyma’r categori i chi. Dywedwch wrthym am eich syniad, ac apêl eich ap i’r farchnad heddiw!

Gwobr: £2000* a chefnogaeth i ddatblygu a lansio’ch Ap

Wrth sôn am y gystadleuaeth dywedodd, Dr Rhian Hayward, Swyddog Trosglwyddo Gwybodaeth:

“Mae’r farchnad apiau ar gyfer ffônau deallus yn cynnig cyfle masnachol eithriadol a chynyddol i ddatblygiadau newydd ar sail meddalwedd, a’r eiddo deallusol cysylltiedig.  Rydym yn edrych ymlaen i adolygu’r syniadau ar arloesiadau diddorol ar draws y Brifysgol a gweithio gyda enillwyr y gystadleuaeth er mwyn datblygu a lansio’r apiau a ddewiswyd.”

Argymhellwn bod unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr ‘her apiau symudol’ yn cofrestru ar gyfer y gweithdy a gynhelir ar 8 Mehefin i gael awgrymiadau ar yr hyn sy’n gwneud ap yn llwyddiannus.

Am ffurflenni cais a’r Amodau a Thelerau llawn, ewch i: www.aber.ac.uk/challenge

Gwybodaeth bellach:

Mae’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori wrthi drwy’r adeg yn chwilio am syniadau a dyfeisiau newydd o fewn y Brifysgol. Dylai staff a myfyrwyr sydd am wybod mwy am y gefnogaeth a’r cyfleoedd ariannu sydd ar gael drwy GMY gysylltu â Dr Rhian Hayward drwy ccservices@aber.ac.uk, neu ffoniwch 01970 628753.

* Gweler manylion y gystadleuaeth, gan gynnwys yr Amodau a’r Telerau llawn yn: www.aber.ac.uk/challenge

AU13411