Crefft y cyfansoddwr

Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes... Canllaw i Fyfyrwyr

Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes... Canllaw i Fyfyrwyr

17 Mehefin 2011

Lansiwyd cyhoeddiad diweddaraf  y Ganolfan Astudiaethau Addysg  (CAA) ar y grefft o gyfansoddi: Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes... Canllaw i Fyfyrwyr  ddechrau’r  wythnos.

Awduron y gyfrol yw’r cerddorion adnabyddus Pwyll ap Sion ac Iwan Llewelyn-Jones. Cafodd y gyfrol ei lansio ddydd Llun 13 Mehefin  yng Nghanolfan y Milieniwm yng Nghaerdydd gyda chyfraniadau gan Pwyll ap Sion a hefyd Gareth Bonello  o’r grŵp ‘The Gentle Good’.

Yn ôl Lynwen Rees Jones, Cyfarwyddwr CAA ,  “Bydd y llyfr hwn yn un gwerthfawr iawn i fyfyrwyr sy’n astudio Cerddoriaeth UG a Safon Uwch, gan fod yr awduron yn arbenigwyr yn eu maes.”  Bydd y gyfrol, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, yn darparu canllaw ysgrifenedig yn ogystal â CD o gerddoriaeth enghreifftiol  fydd yn cynorthwyo myfyrwyr  wrth iddynt  fynd ati i gyfansoddi .

Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes... Canllaw i Fyfyrwyr  yw’r gyfrol ddiweddaraf mewn rhestr hir o gyhoeddiadau  gan y Ganolfan Astudiaethau Addysg , sy’n rhan o’r Adran Addysg a Dysgu Gydol Oes. Am wybodaeth bellach ynghylch gwaith y ganolfan ewch i’w gwefan newydd:

http://www.aber.ac.uk/cy/caa/                                                                                                                                       

Gwybodaeth bellach: Fflur Pughe  fap@aber.ac.uk

AU15111