Plant y Pridd

Plant y Pridd

Plant y Pridd

08 Gorffennaf 2011

Mae ffermwyr Cymru yn 2011 yn wynebu llawn cymaint o bwysau â’u cyndadau rhwng y ddau ryfel. Dyna gasgliad llyfr newydd - ‘Farming in Wales 1936–2011’ sydd wedi ei gyhoeddi i ddathlu 75ed pen-blwydd yr Arolwg Busnesau Fferm.

Roedd ffermwyr yn yr 1930au’n wynebu amseroedd caled ond roedden nhw’n hunangynhaliol ac yn annibynnol; heddiw mae’r sialensiau’n cynnwys gofynion rheoli amgylcheddol, difaterwch y cyhoedd a’r ffordd y mae’r syniad o gynhyrchu bwyd gartref a dod o hyd i fwyd lleol yn ôl mewn bri ar ôl degawdau o ddibynnu ar fewnforio.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn cynnal yr Arolwg Busnesau Fferm ers 1936 a chydnabyddir yn eang mai ef yw’r arolwg mwyaf awdurdodol ynglŷn â chyflwr ariannol ac incwm ffermydd. Mae tîm yr Arolwg Busnesau Fferm bellach yn rhan o IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Ac yntau wedi ei sgrifennu gan yr hanesydd lleol adnabyddus a’r cyn Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth, Richard Moore-Colyer, mae ‘Farming in Wales 1936-2011’ yn rhoi cipolwg diddorol ar y newid mewn ffermio a chymunedau gwledig yn ystod y cyfnod hwnnw, a hynny trwy ailymweld â rhai o’r ffermydd yn yr Arolwg gwreiddiol.

Meddai Tony O’Regan, Cyfarwyddwr yr Arolwg Busnesau Fferm:  “Yn ei ddyddiau cynnar, roedd rhaid i’r Arolwg ddod tros ofnau a phryderon ffermwyr, heb sôn am gŵn rhydd, teirw a ffyrdd garw, er mwyn gofyn cwestiynau a oedd wedi eu gosod gan ymchwilwyr yn y Brifysgol.

“Mae’r llyfr yn haeddu clod am lwyddo i ddangos anawsterau ffermwyr yn ystod y blynyddoedd, gan gynnwys tai ac adnoddau gwael, amodau masnachu gwael a swyddogion gorfrwdfrydig.

“Heddiw, ychydig sydd wedi newid, fel y mae’r llyfr yn ei ddangos trwy wahodd darllenwyr i rannu atgofion a barn teuluoedd fferm a dderbyniodd ymweliad yn yr arolwg cyntaf yn 1936.”

Mae’r ffermwyr hynny’n cynnwys:

•        Dylan Parry, y drydedd genhedlaeth o’i deulu o ffermwyr i fod yn berchen ar Tŷ Ucha’r Llyn yng Ngwyddelwern ger Corwen. Er bod yno 250 erw, mae’r fferm yn dal i ddibynnu ar incwm allanol er mwyn cael safon byw deche i’r teulu. Mae ganddyn nhw ddau fab ac maen nhw’n ymaflyd â’r broblem o sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn gallu parhau â’r traddodiad. Un ateb posib yw ffermio gwynt.

•        Mae John Price o Aberbechan ger y Drenewydd, sy’n cynnwys tŷ fferm du a gwyn nodweddiadol, wedi addasu ac amrywio ei fusnes tros y blynyddoedd, o ffermio moch i gadw ŵyn a gwartheg stôr, a hynny wrth fod yn rhan o’r cynllun Tir Gofal. Yn y blynyddoedd i ddod, mae John yn bwriadu canolbwyntio ar ochr goedwigaeth y busnes tra bydd ei fab, sydd â gradd mewn Ffiseg ac sy’n gweithio mewn diwydiant lleol, yn gorfod gweithredu ar raddfa ‘ci a ffon’.

•       Mae Mrs. Anne Sherman o Llainmanal, Rhydlewis, yn cofio treulio gwyliau ysgol ar y fferm yn yr 1930au, gan ddychwelyd yno o Swydd Efrog yn yr 1970au. Dyw hi ddim yn fferm weithredol o hyd ond mae’r tŷ’n cadw’i gymeriad a’i atgofion hapus.

•        Mae Mr. Hubert Phillips, dyn 74 oed o Lanboidy yn Sir Gâr, yn cofio am gymuned wledig glos, lle’r oedd capel ac eglwys yn allweddol a chydweithredu clos rhwng ffermydd yn ffordd o fyw.

Meddai Dai Jones, Llanilar, y ffarmwr-ddarlledwr enwog: “Mae gan Gymru hanes sy’n llawn pobol a thraddodiadau gwych ac, ers cenedlaethau, mae ffermwyr wedi cyfrannu at yr hanes hwnnw. Mae’n hanfodol fod y cyfraniadau hynny’n cael eu cofnodi a dw i’n gobeithio y bydd pob fferm, a phob cartref yn wir, yn cael copi o ‘Farming in Wales 1936–2011’ i gnoi cil arno.”

Cynhelir lansiad ‘Farming in Wales 1936–2011’ gan Dai Jones, Llanilar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Ddydd Iau Gorffennaf 14 am 7 o’r gloch.

Cynhelir ail achlysur i hyrwyddo’r llyfr yn ystod Y Sioe Frenhinol ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth, ger S4C uwch ben y Prif Gylch yn Llanelwedd ar Ddydd Mawrth Gorffennaf 19 am 2 o’r gloch.

AU16711