Dilyn ôl traed ei deulu

Jonathan Lowe

Jonathan Lowe

15 Gorffennaf 2011

Mae Jonathan Lowe yn graddio heddiw gyda BSc mewn Ymddygiad Anifeiliaid o Brifysgol Aberystwyth. Dim yn anarferol yn hynny o beth – mae’n gwrs poblogaidd – ond brodor o

Atlanta, Georgia yn yr UDA yw Jonathan.  Yn fwy na hynny, mae’n dilyn ôl traed aelodau eraill ei deulu: Cymraes oedd ei hen fam-gu ac fe astudiodd Ddaearyddiaeth yn Aberystwyth yn 1904 – yn wir, mae ei ewyrth yn dal i fyw yng Nghymru. 

Fel yr eglura Jonathan: “Ganed fy hen fam-gu,  Edith Mary Turner ar 20fed o Ebrilll 1893 yn Nhrewern, Sir Drefaldwyn,  ar y gororau, yn ferch i ffermwr, William Turner, ac yn un o 10 o blant. Aeth i Aber yn 1904 gan ennill gradd mewn Bywydeg  cyn mynd ymlaen i gwblhau yr hyn oedd yn cyfateb bryd hynny i radd meistr mewn Daearyddiaeth, o dan yr Athro Fleure.

Roedd hi bob amser yn hynod, hynod falch o’r ffaith eu bod yn dechrau disgyblaeth newydd o fewn daearyddiaeth fodern.  Pan adawodd Aber, aeth i ddysgu  yn y Coleg, Pont-y-pŵl ; roedd hi wrth ei bodd yno, a does dim dwywaith  ei  bod hi’n athrawes ardderchog. Gadawodd i briodi fy hen dad-cu,  Frank George William King, yn 1922. Bu  ef hefyd yn  Aber  a graddiodd mewn Ffiseg.  Y stori mae hi wastad wedi ei dweud wrthym ni ydi eu bod wedi cwrdd mewn gyrfa chwist, a’u bod wedi ennill  pob un o’r 13 tric!   Roedd yn aelod o’r Royal Flying Corps yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ymunodd ag adran ymchwil  Dunlop Tyres yn 1919. Treuliodd ei holl yrfa yn Dunlop, ac ef oedd eu cyfarwyddwr technegol pan ymddeolodd yn yn 1956”

Cyd-ddigwyddiad oedd y ffaith bod  Jonathan wedi penderfynu croesi’r dŵr i  astudio yn Aberystwyth: roedd wedi’i gyfareddu gan fyd ymddygiad anifeiliaid er pan oedd yn ifanc, ac  ar ôl cryn dipyn o ymchwilio penderfynodd bod gradd BSc  Prifysgol Aberystwyth mewn Ymddygiad Anifeiliaid  yr union beth oedd ei angen arno i gael achub y blaen o ran y farchnad swyddi.  

Dair blynedd yn ddiweddarach ac mae ei astudiaethau yma wedi talu ar eu canfed – wedi’r seremoni raddio bydd Jonathan yn dychwelyd i’r UDA i ddechrau mewn swydd fel cynorthwy-ydd ymchwil yn gweithio ar brosiectau yn ymwneud ag ymddygiad anifeiliaid yng Nghanolfan Ymchwil Cenedlaethol  Primatiaid Yerkes  yn Mhrifysgol  Emroy yn Georgia.  Pan fydd yn dychwelyd, bydd yn mynd â llond gwlad o atgofion  am y dref fach ar arfordir Bae Ceredigion gydag ef. A gobeithio  na fydd pedair cenhedlaeth arall yn mynd heibio cyn i aelod arall o deulu Lowe astudio yn Aberystwyth.