Llwyddiant gwobrau cyflogaeth myfyrwyr

Lynn Abhulimen a Jamie Barker, Ennillwyr Gwobrau Myfyrwir Cyflogedig y Flwyddyn 2011

Lynn Abhulimen a Jamie Barker, Ennillwyr Gwobrau Myfyrwir Cyflogedig y Flwyddyn 2011

26 Gorffennaf 2011

Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi eu cydnabod yng ngwobrau blynyddol Myfyriwr Cyflogedig y Flwyddyn (Student Employee of the Year Awards) â gynhaliwyd yng nghynadledd Cymdeithas Genedlaethol Gwasanaethau Cyflogi Myfyrwyr (NASES) ym Myrmingham. Gwobrwywyd Lynn Abhulimen a Jamie Barker am eu cyfraniadau gwych a’u cyflawniadau wrth gyfuno gwaith rhan amser gyda’u ymrwymiad i’w astudiaethau academaidd.

Derbyniodd Lynn, sydd yn fyfyriwr yn yr Ysgol Rheolaeth a Bunses, wobr Jobshop Myfyriwr Cyflogedig y Flwyddyn Cymru 2011, tra enillodd Jamie, myfyriwr TG busnes, ddwy wobr – Myfyriwr Cyflogedig y Flwyddyn ar y Campws Cymru 2011 a’r wobr gyffredinol Myfyriwr Cyflogedig y Flwyddyn Cymru 2011.

Dywedodd Dr Russell Davies, Rheolwr Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn hynod falch o Jamie a Lynn a dylent fod yn fodlon iawn o’r hyn maent wedi ei gyflawni. Fel Prifysgol, rydym yn annog ennyn profiad ymarferol o fewn y gweithle ac yn gweithio’n galed i gynnal a datblygu ein cysylltiadau gyda busnesau a chyflogwyr. Mae’r gwobrau hyn yn ffordd werthfawr o danlinellu pwysigrwydd y cysylltiadau hyn.”

Aseswyd yr enwebiadau o fewn sefydliad NASES, cyn eu anfon at feirniaid ar banel rhanbarthol. Cryfder cynnwys yr enwebiadau arweiniodd ar wobrwyo’r myfyrwyr hyn.

Enwebwyd y ddau fyfyriwr gan eu cyflogwyr; Lynn gan Beverley Herring, Rheolwr Job Link yn y Gwasanaethau Gyrfaoedd a Nerys Davis sydd hefyd o’r Gwasanaethau Gyrfaoedd; a Jamie gan Rosie Mills a Dr Ian Harris Swyddfa Dderbyn Prifysgol Cymru Aberystwyth. Yn yr enwebiadau, nodwyd y canlynol ynghylch y myfyrwyr:

  • Eu cyfrifoldebau yn y gweithle
  • Eu cyfraniadau i’w hadrannau unigol
  • Sut y bu iddynt ragori mewn meysydd penodol e.e. cyfathrebu, ymroddiad, cydbwysedd gwaith/astudio, gwaith tîm, dawn greadigol, ynghyd ag enghreifftiau

Nododd Jamie Baker: “Dwi wedi mwynhau’r profiad o weithio yn Swyddfa Dderbyn y Brifysgol ac yn teimlo mod i wedi dysgu nifer o sgiliau fydd o fudd i mi pan yn dechrau gweithio llawn amser ar ôl graddio. Roedd cael fy enwebu yn grêt, ond roedd ennill tu hwnt i’m disgwyliadau.”

AU18411