Yr Athro Gareth Edwards-Jones

Yr Athro Gareth Edwards-Jones

Yr Athro Gareth Edwards-Jones

17 Awst 2011

Gyda thristwch y nodwn farwolaeth Yr Athro Gareth Edwards-Jones, deiliad Cadair Waitrose mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy yn IBERS, a fu farw ddydd Sul 14 Awst.

Cychwynnodd Yr Athro Edwards-Jones yn ei swydd ym mis Medi 2010, yn rhan o benodiad arloesol ar y cyd â Phrifysgol Bangor, a bu’n cyfuno’i waith yng Nghadair Waitrose mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy, â’i swydd yn Athro Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Defnydd Tir ym Mangor.

Roedd yn fab fferm o Sir Ddinbych a chanddo ddiddordebau ymchwil yn rhychwantu pob math o faterion yn gysylltiedig â chynhyrchu bwyd a defnydd doeth o’r amgylchedd. Roedd y rhain yn cynnwys cyfrifo carbon, polisi amaethyddol a’r amgylchedd, economeg cadwraeth natur, seicoleg gwneud penderfyniadau ynghylch ffermio a datblygiadau amaethyddol yng Nghymru.

Mae’r Athro Edwards-Jones yn gadael gwraig, Emma, a dau o blant sy’n byw yng Ngogledd Cymru.

Yn sgil clywed am farwolaeth yr Athro Edwards-Jones dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS: “Yr Athro Gareth Edwards-Jones oedd y gwyddonydd amaethyddol mwyaf blaenllaw yn ei genhedlaeth. Roedd yn cyfuno arweinyddiaeth ddeallusol ag ysbrydoliaeth yn ei waith dysg, yn ogystal â gallu cyfathrebu yn effeithiol â ffermwyr a chymunedau amaethyddol ehangach. Roedd ei benodiad i Gadair Waitrose mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy yn 2010 yn adlewyrchiad o’r rhinweddau hyn ac o’i allu i osod yr agenda i’r gwyddorau tirol yng ngwledydd Prydain a ledled y byd.  Bydd ei gydweithwyr a’i gyfeillion yn y Brifysgol yn gweld ei golli, rydym yn gyrru ein cydymdeimlad dwys at ei deulu.”

Cynhelir yr angladd am 1.30yp ar ddydd Sadwrn 20 Awst yn Eglwys Padarn Sant, Llanberis ac yna yn Amlosgfa Gymunedol Llanrug.  Mae’r teulu yn dymuno i’r rhai sydd am fynychu’r angladd i wisgo dillad lliwgar ac i gyfraniadau gael eu rhoi at Marie Curie yn hytrach na blodau.  Am fanylion pellach cysyllter â Dylan Griffiths, Trefnwr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen (01286) 871833.

AU20011