Not the Booker Prize

Tyler Keevil

Tyler Keevil

25 Awst 2011

Ar ôl derbyn canmoliaeth eang am ei nofel gyntaf, mae myfyriwr PhD o Aberystwyth yn dathlu unwaith eto ar ôl i’r nofel gael ei gosod ar restr fer gwobr lenyddol a drefnir gan bapur newydd The Guardian.

Pleidleisiodd darllenwyr ac adolygwyr i osod ‘Fireball’, gan Tyler Keevil, sydd ar hyn o bryd yn astudio am radd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol yn Aberystwyth, ar restr fer o chwe nofel ar gyfer gwobr ‘Not the Booker Prize’, a ddisgrifir fel gwobr lenyddol fwyaf hwyliog y DU. Mae’r gystadleuaeth ar agor i nofelau oedd yn gymwys ar gyfer Gwobr Booker ond na chafodd eu gosod ar y rhestr fer, ac ymwelwyr â gwefan y Guardian sy’n pleidleisio i ddewis enillydd.

Er ei fod bellach yn byw yng nghanolbarth Cymru, o Vancouver yng Nghanada y daw Tyler Keevil yn wreiddiol, a dyna le mae ei nofel wedi’i gosod. Mae’n adrodd hanes pedwar cymeriad yn eu harddegau dros un haf poeth, gan olrhain y digwyddiadau sy’n arwain at farwolaeth Chris, ffrind gorau cymhleth y prif gymeriad, wrth iddo yrru car heddlu wedi’i ddwyn dros glogwyn.

Gofynnir i’r sawl sy’n pleidleisio i ddarparu adolygiad cryno o’r gyfrol maen nhw’n pleidleisio drosti, a disgrifiwyd ‘Fireball’ fel “stori go gyflym gyda naratif person cyntaf cryf a llond y lle bethau’n digwydd”.

Wrth sôn am y gyfrol, meddai Tyler: “Dywedodd rhywun rywdro os ydych chi am ysgrifennu llyfr, ysgrifennwch y math o lyfr yr hoffech chi ei ddarllen, ac mae hynny’n bendant yn wir am Fireball. Rwyf yn falch iawn ei fod wedi plesio cymaint o bobl, yn arbennig yng Nghymru.  Mae nifer o bobl sydd wedi darllen y llyfr wedi dweud wrtha i fod y llyfr yn eu hatgoffa o’u plentyndod eu hun, a hyn gan bobl o amrywiaeth o gefndiroedd, sy’n dda clywed. Mae’n gryn ysbrydoliaeth i barhau â fy ail nofel, sydd ar waith ar hyn o bryd fel rhan o fy ngradd PhD yn Aberystwyth.”

Yn gynharach eleni, gosodwyd ‘Fireball’ hefyd ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr glodfawr Llyfr y Flwyddyn, ac enillodd elfen Gwobr Darllenwyr Media Wales yn y gystadleuaeth honno.

Bydd y llyfrau sydd ar restr fer Not the Booker Prize yn cael eu hadolygu a’r trafod yn fanwl ar flog llyfrau’r Guardian, cyn cyhoeddi’r enillydd ym mis Hydref. Ac er efallai nad yw hi mor werthfawr yn ariannol â’r wobr y mae’n ymateb iddi, y Booker, fe fydd yr enillydd yn derbyn gwobr – cwpan y Guardian i gael mwynhau paned o de.

AU20411