Rhodd o Daiwan

Dr Judith Broady-Preston, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth (dde) yn cyflwyno fersiwn ddigidol o’r Cyfnodolyn Mynediad Agored, sef y Journal of Educational, Media and Library Services i Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dr Judith Broady-Preston, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth (dde) yn cyflwyno fersiwn ddigidol o’r Cyfnodolyn Mynediad Agored, sef y Journal of Educational, Media and Library Services i Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth.

08 Tachwedd 2011

Yn ddiweddar cafodd Prifysgol Aberystwyth rodd hael oddi wrth Brifysgol Tamkang, Danshui, Taiwan.

Cyflwynwyd y rhodd, sef copi argraffiad cyfyngedig digidol o gynnwys 40 mlynedd o’r Cyfnodolyn Mynediad Agored Rhyngwladol clodfawr, Journal of Educational, Media and Library Services (1970–2010), i’r Brifysgol gan Brif Olygydd y Cyfnodolyn, yr Athro Jeong-Yeou Chiu, Deon Coleg y Celfyddydau Rhyddfrydol, Prifysgol Tamkang, Taiwan.

Mae’r Athro Chiu hefyd yn gyfarwyddwr ar Gymdeithas Llyfrgelloedd Gweriniaeth Tsieina (Taiwan), yn Gadeirydd ar Gymdeithas Addysg Llyfrgelloedd a Gwyddoniaeth Tsieina ac yn gyn fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth. Yn ystod canol yr 1990au, cafodd yr Athro Chiu MLib a PhD o’r adran Astudiaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd y copi digidol o’r cyfnodolyn, sy’n rhychwantu 40 mlynedd - a gyflwynwyd yn y lle cyntaf i Dr Judith Broady-Preston, Golygydd Rhanbarthol (DU ac Ewrop) y Cyfnodolyn, a Chyfarwyddwr Ymchwil ac Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth - ei gyflwyno i Rebecca Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth a Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Meddai Rebecca Davies: “Rwy’n hynod falch o gael derbyn y rhodd hael hwn ar ran y Brifysgol. Mae’n cynrychioli cyfoeth o waith ac ehangder o wybodaeth a dysg. Mae’n fraint mawr cael derbyn rhodd mor hael.”

Mae’r Journal of Educational, Media and Library Services yn un o’r Cyfnodolion Mynediad Agored cynharaf. Mae’n gyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid, a gyhoeddir yn chwarterol ac sy’n rhoi sylw i amrywiaeth o bynciau a dulliau ymchwil ym meysydd Astudiaeth Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth.

Mae Dr Judith Broady-Preston yn esbonio: “Roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy ngwahodd i draddodi’r prif anerchiad yn y gynhadledd ryngwladol When Library and Information Studies meets the Digital World and Scholarly Publishing yn Nhaiwan, a drefnwyd i ddathlu deugain mlwyddiant y cyfnodolyn. Yn ystod y gynhadledd gofynnwyd i mi dderbyn y rhodd hwn ar ran Prifysgol Aberystwyth fel arwydd o’r berthynas sy’n datblygu rhwng ein Prifysgol a Phrifysgol Tamkang, Taiwan. Mae’n anhygoel meddwl bod y cofbin bach a gyflwynwyd i ni yn cynnwys deugain mlynedd o weithiau cyhoeddedig, ac yn cynrychioli rhai o brif feddyliau a syniadau arweinwyr ein maes.”

Bydd y fersiwn ddigidol ar gael i fyfyrwyr yn y Brifysgol i gynorthwyo eu hastudiaethau academaidd yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth.

AU25611