Ymweliad o’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad

Iain Macleod.

Iain Macleod.

07 Chwefror 2012

Bydd Iain Macleod, Ymgynghorydd Cyfreithiol yn Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, yn ymweld ag Adran y Gyfraith a Throseddeg ddydd Mercher 8 Chwefror.

Bydd yn siarad â Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Brifysgol (Cynrychiolydd Parhaol gynt i’r Cenhedloedd Unedig a chyn Gynrychiolydd Parhaol i NATO), o 3.45 y prynhawn yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd y materion dan sylw yn cynnwys y trafodaethau ymhlith gwledydd parth yr ewro, a’r effaith ar Gytundebau’r UE, y gyfraith ar ymyrryd ac arlywydd Libya, a chyfreithlondeb yr ymosodiadau ar Irac.
Cafodd Iain Macleod ei dderbyn yn gyfreithiwr yn 1987 ac ers hynny bu ganddo swyddi mewn sawl adran y Llywodraeth.

Yn y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, gweithiai yng Nghynrychiolaeth y DU i’r Comisiwn Ewropeaidd ac yng Nghenhadaeth y DU i’r Cenhedloedd Unedig (roedd yn gynghorydd cyfreithiol i genhadaeth y DU i’r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd rhwng 2001 a 2004).

Ar ôl hynny roedd yn Ddirprwy Gynghorydd Cyfreithiol yn y Swyddfa Gartref ac wedyn yn Gynghorydd Cyfreithiol i Isadran Ymgynghorol Ganolog Adran Cyfreithiwr y Trysorlys, cyn iddo gychwyn ar ei swydd bresennol y llynedd.

Mae croeso i bawb i’r dialog, ac fe fyddwn ni’n annog y gynulleidfa i gymryd rhan.

AU2612