Y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd

Mr Stephen Crabb.

Mr Stephen Crabb.

24 Chwefror 2012

Bydd Mr Stephen Crabb, yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Benfro a Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth, yn trafod effaith cymorth ariannol yr Undeb Ewropeaidd ar wleidyddiaeth a pholisïau domestig yn ystod y sefyllfa heriol argyfwng ardal yr Ewro, yn y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar Ddydd Gwener yr 2il o Fawrth 2012.   

Cynhelir y ddarlith, sy’n dwyn y teitl ‘The case of EU aid in an age of austerity’ am 2 y prynhawn ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ar gampws Penglais y Brifysgol.

Ail etholwyd Stephen Crabb yn Aelod Seneddol dros Sir Benfro ym mis Mai 2010. Cyn hynny, gweithiodd fel ymgynghorydd marchnata, ac i’r Cyngor Cenedlaethol o Wasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol a Siambr Masnach a Diwydiant Llundain.

Yn y Senedd y mae wedi gwasanaethau ar y pwyllgorau Materion Cymreig, Datblygiad Rhyngwladol, a’r Trysorlys. Ym mis Ionawr 2009 fe’i penodwyd i’r fainc flaen fel Chwip yr Wrthblaid.

Yn dilyn ffurfio’r Llywodraeth Glymbleidiol ym Mai 2010 fe’i benodwyd yn Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth.

Mae’r Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd yn ganolfan sy’n canolbwyntio ar ymchwil rhyngddisgyblaethol a rhyngadrannol sy’n ffocysu ar yr astudiaeth o integreiddiad Ewropeaidd bellach a pherthynas Ewrop â’r byd allanol.

Ei amcan yw datblygu rhagoriaeth, trwy addysgu, ymchwil, a datblygiad proffesiynol parhaus  blaengar ym meysydd Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Gwyddorau Amgylcheddol, Ieithoedd Ewropeaidd, Troseddeg a’r Gyfraith, Hanes, Rheolaeth a Busnes ac unrhyw ddisgyblaeth arall sydd â ffocws Ewropeaidd. 

Mae gwaith y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd wedi’i asio at Raglen Addysg a Dysgu Gydol Oes yr Undeb Ewropeaidd gan gynnwys Rhaglen Jean Monnet a Rhaglen Erasmus.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar http://www.aber.ac.uk/en/ces/new-events/  neu cysylltwch â Ms Ira Bliatka, Cynorthwyydd Gweinyddol y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd (irb2@aber.ac.uk) yn uniongyrchol.

AU4212