Pam bod Cymru wedi dweud Ie

05 Mawrth 2012

Nos Lun nesaf, y 5ed o Fawrth 2012, caiff dadansoddiad unigryw o Refferendwm Cymru 2011 ei lansio yn Aberystwyth.

Cafodd y gyfrol Wales Says Yes: Devolution and the 2011 Welsh Referendum ei ysgrifennu gan yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Prifysgol Aberystwyth a’r Athro Richard Wyn Jones, a fu ar staff Prifysgol Aberystwyth ond sydd bellach ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r gyfrol yn ystyried pam y digwyddodd y refferendwm, yn edrych yn fanwl ar ymgyrch y refferendwm, ac yn dadansoddi pam y gwnaeth poblogaeth Cymru bleidleisio fel ag y gwnaethant – i sicrhau buddugoliaeth glir o blaid mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Eisoes, disgrifiwyd y gyfrol gan yr Athro Charlie Jeffery, Cadeirydd y Political Studies Association yn y DG, fel “outstanding political science”.

Wrth edrych ymlaen at y lansiad, dywedodd yr Athro Roger Scully, ei fod yn “falch iawn o allu lansio ‘r gyfrol Wales Says Yes yn Aberystwyth, lle a fu’n gartref i astudiaethau gwerthfawr ar wleidyddiaeth Cymru am dros ddegawd. Mae’n hynod o addas ein bod yn lansio’r llyfr yma, gan mai yng Ngheredigion y gwelwyd un o ymgyrchoedd lleol mwyaf trefnus y refferendwm, ac mai o Aberystwyth y darlledwyd y cyntaf o’r dadleuon teledu ar y refferendwm”.

Cynhelir y lansiad yng Nghanolfan Morlan nos Lun y 5ed o Fawrth am 7 o’r gloch. Darperir lluniaeth ysgafn a bydd cyfle i brynu’r gyfrol a chael llofnod y ddau awdur.

Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol wedi’i sefydlu o fewn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, adran sydd yn cael ei chydnabod gyda’r gorau yn ei maes o ran ymchwil a safon ei dysgu. Nod Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yw hybu astudiaeth a thrafodaeth academaidd ar bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru. Mae gwaith Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn cwmpasu nid yn unig ddatblygiadau gwleidyddol oddi mewn i Gymru ond hefyd gysylltiadau gwleidyddol Cymru â gweddill Ynysoedd Prydain, Ewrop a'r byd.

AU4112