Rag yn cefnogi Tŷ Hafan

Chwith i'r dde: Is-lywydd Rag Aber, Rhian McIntosh, a’r Llywydd Ismael Khan yn cyflwyno’r siec i Mr Philip Thomas o Tŷ Hafan.

Chwith i'r dde: Is-lywydd Rag Aber, Rhian McIntosh, a’r Llywydd Ismael Khan yn cyflwyno’r siec i Mr Philip Thomas o Tŷ Hafan.

12 Mawrth 2012

Mae menter codi arian myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi dod i'r amlwg unwaith eto'r wythnos hon wedi i gynrychiolwyr o Aber Rag gyflwyno siec am £3,500 i’r elusen Tŷ Hafan.

Cyflwynodd Llywydd Rag Aber, Ismael Khan ac aelodau o’r Pwyllgor, Hulda Knox-Thomas, Verity Bailey a Rhian McIntosh siec i Mr Philip Thomas, Swyddog Codi Arian y Gymuned a Busnes gyda Tŷ Hafan. Yn bresennol hefyd yr oedd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro April McMahon, yr Athro John Grattan a Ms Rebecca Davies, Dirprwy Is-Gangellorion, a Cathy Beckham, Gweinyddwr Cymdeithasau gydag Urdd y Myfyrwyr Aberystwyth

Sefydlwyd Tŷ Hafan yn 1999 ac mae’n darparu gofal i blant a phobl ifanc sydd yn dioddef cyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, a chymorth i’w teuluoedd. Mae'n gofalu am fwy na 100 o deuluoedd yng Ngorllewin Cymru yn unig, ac yn eu mysg mae rhai sydd wedi cael profedigaeth.

Ynghyd â Childreach International, UNICEF a Oxfam, mae Tŷ Hafan yn un o bedair elusen fawr a nifer o elusennau lleol llai sydd wedi elwa o weithgareddau codi arian y myfyrwyr a lwyddodd i gasglu dros £40,000 yn ystod 2010/11.

Wrth siarad wedi’r cyflwyniad, dywedodd Ismael:
"Mae wedi bod yn bleser codi arian ar gyfer achos mor dda, elusen sydd mor agos at galonnau pobl sy'n byw yn Aberystwyth a’r clych yn ogystal â'r myfyrwyr. O'r holl elusennau y bûm i ni’n casglu ar eu cyfer y llynedd, Tŷ Hafan ysgogodd yr ymateb mwyaf twymgalon.

"Rydym yn hapus iawn fod y myfyrwyr wedi cefnogi’r ymgyrch hon a’i gwneud yn gymaint o lwyddiant. Diolch yn fawr i bawb ac yn arbennig i Cathy Beckham yn Urdd y Myfyrwyr. Rydym wedi gosod targed o £80,000 ar gyfer 2011/12 ac rydym yn hyderus y byddwn yn ei gyrraedd cyn diwedd Mehefin, diolch i gefnogaeth pawb sy'n gysylltiedig â’r ymgyrch.”

Meddai Philip Thomas o Tŷ Hafan: "Rwy'n ddiolchgar iawn i Aber Rag a chymuned y myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth am eu haelioni. Mae Tŷ Hafan yn dibynnu ar gyfraniadau a wneir gan aelodau o'r gymuned ac mae'n arbennig o braf gweld pobl ifanc yn gweithio i gynorthwyo pobl ifanc eraill a'u teuluoedd sydd yn llawer llai ffodus na hwy eu hunain. "

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
"Ar ran y Brifysgol hoffwn estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf a dweud diolch o galon i bwyllgor Rag Aber ar lwyddiant rhyfeddol yr ymgyrch godi arian hon. Mae gan Rag Aber hanes hir a nodedig o godi arian ar gyfer elusennau, mawr a bach, ac yr wyf yn falch bod y traddodiad hwn yn parhau’n fyw diolch i waith diflino aelodau'r pwyllgor a haelioni eu cyd-fyfyrwyr a'r gymuned ehangach."

Cangen godi arian swyddogol Urdd y Myfyrwyr Aberystwyth yw Rag Aber. Ymhlith y digwyddiadau a drefnwyd i godi arian i Tŷ Hafan yr oedd Dawns Fawr yr Eira, a oedd yn cynnwys peiriant eira go iawn, a digwyddiad canlyn cyflym (speed dating).

Aelodau'r pwyllgor Aber Rag yw: Llywydd, Ismael Khan; Is-lywydd, Rhian McIntosh, Trysorydd, Verity Bailey; Ysgrifennydd, Beth Archer; Ysgrifennydd Cymdeithasol, Hannah Dalton; Cyswllt, Hulda Knox-Thomas.

 AU5712