Carwyr y ffagl Olympaidd

20 Mawrth 2012

Mae myfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn y Sefydliad Daearyddiaeth ac Astudiaethau Daear, myfyriwr flwyddyn gyntaf  yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, ynghyd a Phennaeth yr Adran Gyfrifiadureg ym mhlith yr enwau ar y rhestr o’r bobl a fydd yn cario’r ffagl Olympaidd.

Mae stori Susanna Ditton, sy’n dod yn wreiddiol o Woking yn Surrey, i’w gweld ar wefan Llundain 2012.
http://www.london2012.com/games/olympic-torch-relay/torchbearers/detail/DB6F-03A1-8749-3C4C

Meddai Susanna, a fydd yn cario’r ffagl Olympaidd ar hyd strydoedd Aberystwyth ar ddydd Sul y 27ain o Fai, am y profiad o gael ei dewis, “Ces wybod am fy enwebiad oddeutu deufis yn ôl, ond yn awr caf rannu’r newyddion â phawb. Dwi wedi fy nghyffroi’n lan, a byddaf i’n gwneud hyn ar ran Prifysgol Aberystwyth a thref Aberystwyth.”

Yn cario’r ffagl drwy Frynhoffnant ger Aberteifi fydd Shon Rowcliffe, myfyriwr yn yr  Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Meddai Shon “byddaf yn cario’r ffagl dros fy ngwlad, fy nheulu a’m ffrindiau”

Mae Qiang Shen, Pennaeth Adran Cyfrifiadureg y Brifysgol hefyd wedi’i enwebi i gario’r ffagl yn Aberystwyth ar y 27ain o Fai.

Dywedodd, wrth siarad heddiw am y newyddion; “Bydd 2012 yn nodi can mlwyddiant genedigaeth Alan Turing, sylfaenydd cyfrifiadureg a deallusrwydd artiffisial ac arloeswr yn yr ymgais i dorri codau yn yr Ail Ryfel Byd. Mae’n anrhydedd imi gael fy newis i gario’r ffagl Olympaidd er cof am Alan Turing. Dwi hefyd yn hapus iawn fy mod wedi cael y cyfle hwn i ddathlu llwyddiannau f’Adran a’m Prifysgol, ac i ysbrydoli mwy o bobl ifainc i ddatblygu’n arweinwyr y dyfodol ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg. "

Bydd y ffagl Olympaidd yn cael ei chario ar draws y DU gan 8000 o bobl a bydd yn cyrraedd Aberystwyth o Abertawe ar y 27ain o Fai, gan adael eto am Fangor ar y bore canlynol.

AU8112