Gerald Davies i ymuno â dalthliadau pen-blwydd

Dr Mark Burnley (chwith) yn cyflawni'r dechneg cynhesu preimio ar Gruff Lewis, sy’n gweithio yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol ac yn feiciwr lled-broffesiynol.

Dr Mark Burnley (chwith) yn cyflawni'r dechneg cynhesu preimio ar Gruff Lewis, sy’n gweithio yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol ac yn feiciwr lled-broffesiynol.

23 Mai 2012

Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn un o labordai gwyddor chwaraeon mwyaf blaenllaw y wlad? A fyddech chi'n hoffi cwrdd â'r 'cotiau gwyn' yn Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Aberystwyth?

Bydd yr Adran yn agor ei drysau i'r cyhoedd ar fore Sul rhwng 10am-12pm (27 Mai) i ddathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed – bydd y diwrnod agored hefyd yn cyd-fynd â dathliadau’r Fflam Olympaidd yn Aberystwyth.

Yn ogystal â theithiau tywysiedig o gwmpas y labordai, ac arddangosfeydd o’r cyfarpar yno, bydd yr Adran hefyd yn croesawu cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru a'r Llewod, Gerald Davies CBE, ynghyd â chyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Dafydd Jones, i ginio ffurfiol ac i *Ddarlith Gregynog ar ddydd Sadwrn 26 Mai .

Er y sefydlwyd yr Adran ym mis Awst 2002, dim ond yn 2004 yr agorwyd hi’n swyddogol, gan  Gerald Davies ei hun, pan symudodd  y tim i'r adeilad pwrpasol newydd, sef Adeilad Carwyn James. Ers ei sefydlu, mae'r Adran wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ymchwil chwaraeon ac ymarfer corff.

Dywedodd Dr Joanne Thatcher, Pennaeth yr Adran,: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl leol, graddedigion hen a newydd yn ogystal â gwesteion pwysig yma dros y penwythnos i ddathlu'r garreg filltir hanesyddol hon gyda ni.

"Eleni, mae’r Adran wedi’i rhestru yn The Guardian University Guide yn drydedd gorau o’i math? yn y DG, a’r gorau yng Nghymru. Rydym wedi tyfu'n sylweddol dros y deng mlynedd diwethaf ac rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yma. "

Yr ymchwil ddiweddaraf i ddenu sylw’r wasg yw gwaith Dr Mark Burnley ym myd techneg gynhesu newydd o'r enw "preimio" a allai helpu i wella perfformiad athletwyr a gwneud y gwahaniaeth rhwng aur ac arian.

Mae Dr Burnley wedi bod yn astudio sut mae preimio yn cynyddu crynodiad o lactad yn y gwaed, gan wneud y gwaed yn asidig, fydd yn gwella perfformiad yn y pen draw. Mae'r gwaith yn gwella perfformiad mewn unrhyw gamp chwaraeon sy'n para rhwng tua dwy funud hyd at tua 30 munud.

Testun ymchwil pwysig arall sy’n gymorth i’r gymuned a’r gwansanaethau iechyd yw’r ymgais i helpu unigolion sy’n dioddef o ddiabetes. Mae gwyddonwyr yn Aberystwyth yn archwilio'r cysylltiadau rhwng lefelau isel o fitamin D a diabetes math 2, yn ogystal â'r effeithiau a gaiff gwahanol fathau ar ymarfer corff ar y cyflwr.

AU13712