Cadair yr Urdd i Gruffudd Antur

07 Mehefin 2012

Y buddugwr yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 yw Gruffudd Antur, myfyriwr yn ail flwyddyn yn y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Brodor o Lanuwchlyn yw Gruffudd yn wreiddiol, a dysgodd gynganeddu yn ystod ei flynyddoedd yn Ysgol y Berwyn, Y Bala.

Enillodd gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol dros Aberystwyth yng Nghaerdydd y llynedd ac ym Mangor eleni; ac ef oedd bardd cadeiriol Eisteddfod Llanuwchllyn yn 2011.

Bydd Gruffudd yn dychwelyd i Aber i gwblhau ei radd ym mis Medi, ac yna gobeithia barhau â’i astudiaethau ar lefel uwchraddedig.

Y dasg i'r 13 cystadleuydd am y Gadair eleni oedd cyfansoddi cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun Cylchoedd. Ynddi, trafoda Gruffudd gylchoedd bywyd gwleidyddol a diwyllianol Cymru.

Y beirniaid oedd Rhys Iorwerth ac Ifan Prys.Yn eu beirniadaeth, dywedodd y ddau:

"Dyma awdl grefftus ac amserol sy'n perthnasu darlith hanesyddol Saunders Lewis o 1962, Tynged yr Iaith, i fywyd y bardd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw ac i Gymru yn ehangach.”

"Mae'n gynganeddwr penigamp, yn gwbl feistrolgar a glân.”

Cadeiriwyd y bardd ifanc yn seremoni'r Cadeirio ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar brynhawn dydd Iau, 07 / 06 / 2012.

Llongyfarchiadau mawrion i Gruffudd ar ei orchest!

AU19312