Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2012

Dr James Vaughan yn derbyn Gwobr Adran y Flwyddyn ar ran Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Dr James Vaughan yn derbyn Gwobr Adran y Flwyddyn ar ran Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

08 Mehefin 2012

Enillodd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y wobr am Adran y Flwyddyn yn y Gwobrau Dysgu tan Arweiniad Myfyrwyr cyntaf i’w cynnal erioed gan Urdd y Myfyrwyr, Aberystwyth, ar ddydd Iau'r 24ain o Fai.

Arweiniwyd y noson gan Swyddog Addysg yr Urdd, Jess Leigh, a’r Athro John Grattan, y Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu, Addysgu, a Chyflogadwyedd, a bu’n ddathliad o ragoriaeth addysgu yn ogystal â chyfraniad y staff cynorthwyol a chynrychiolwyr y myfyrwyr.

Gwahoddwyd myfyrwyr i gyflwyno enwebiadau ar gyfer y Gwobrau ar-lein ac yn y blychau pleidleisio traddodiadol - lleolwyd deg ohonynt mewn mannau gwahanol ar draws y Brifysgol.

Derbyniwyd dros 200 o enwebiadau a dewiswyd y buddugwyr a’r ail safle gan bwyllgor oedd yn cynnwys swyddogion yr Urdd a’r Athro John Grattan.

Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Jess Leigh: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr oherwydd ymroddiad y staff a’r myfyrwyr. Heb eu brwdfrydedd hwy, ni fyddai’r digwyddiad wedi bod mor llwyddiannus. Yr oedd yn gyfle i fyfyrwyr ddiolch a gwobrwyo staff y Brifysgol am ba bynnag rhan o fywyd y campws y buont yn rhan ohono, ac yn gyfle i’r ddwy garfan i gael cyd-ddathlu.

Hwn oedd y digwyddiad cyntaf o’i fath yn Aber a mawr obeithiwn y bydd yn datblygu’n beth blynyddol, gyda’r wobr fawr o gael bod yn Adran y Flwyddyn yn destun cystadleuaeth ffyrnig,” ychwanegodd Jess.

Dywedodd yr Athro John Grattan: “Dyma fenter wych ar ran Urdd y Myfyrwyr a llongyfarchaf hwynt ar noswaith lwyddiannus dros ben. Mae gan Brifysgol Aberystwyth enw da am fodlondeb myfyrwyr gyda’r ddarpariaeth addysgu. Pa ddull gwell o gydnabod hyn na thrwy roi cyfle i’r myfyrwyr i leisio’u barn, a dweud pwy, yn eu tyb nhw, yw’r sêr wrth eu haddysgu a’u hysbrydoli.”

“Y mae hefyd yn braf gweld staff cynhorthwyol yn cael eu canmol am eu cyfraniadau hwythau yn ogystal â’r myfyrwyr sy’n chwarae rhan mor weithgar wrth ddarparu adborth i Adrannau.”

Mae’r trefnwyr yn gobeithio denu enwebiadau oddi wrth fyfyrwyr sy’n astudio o bellter a myfyrwyr rhan amser y flwyddyn nesaf, a gobeithiant ennill nawdd oddi wrth y graddedigion ar gyfer un o’r gwobrau.

Modelwyd y Gwobrau ar y prosiect peilot llwyddiannus a drefnwyd ar y cyd yn yr Alban gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a’r Academi Addysg Uwch.

A’r buddugwyr yw….
Y Wobr am yr Addysgu mwyaf Creadigol / Blaengar
Buddugwr: Yr Athro Alex Maltman (IGES). Cyflwynwyd gan Will Atkinson (IGES)
Beth ddywedodd y myfyrwyr: ‘Ef yw’r dyn mwyaf ysbrydolgar dwi erioed wedi cyfarfod. Mae ganddo gymaint o straeon, ni thraetha fyth ddarlith ddiflas, a phâr imi fod eisiau astudio daearyddiaeth am byth.  Roedd pob darlith yn anhygoel. Perthyn i bob darlith o’i eiddo hiwmor a gwybodaeth eang; roeddwn yn gyffrous o gael eu mynychu bob tro.’

Ail Agos: Dr Lucy Taylor (Gwleidyddiaeth Ryngwladol); Dr Simona Rentea (Gwleidyddiaeth Ryngwladol); Dr John Warren (IBERS).

Y Wobr am Addysgu Trwy Dechnoleg
Buddugwr: Dr Hazel Davey (IBERS). Cyflwynwyd gan Daniel Zoppellini
Beth ddywedodd y myfyrwyr: ‘Mae Hazel wedi gweithio’n galed iawn dros y flwyddyn ddiwethaf i ddefnyddio technoleg yn ei darlithoedd. Cawsom ddarlithoedd ar-lein; medrem eu mynychu adref heb for angen inni ddod i’r Brifysgol. Gosododd Hazel lawer iawn o adnoddau ar Blackboard i hybu dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr. Nid yw’r un darlithydd arall wedi cynnwys cymaint o ddeunydd gwe neu ddeunydd cyfrifiadurol mewn modiwl unigol, er gwaetha’r ffaith mai dim ond hanner y darlithoedd oedd tan ofal Hazel! Gan hynny, credaf fod Hazel yn haeddu’r wobr hon uwchlaw pawb arall.’

Ail Agos:
Yr Athro Chris Thomas (IBERS); Dr Jenny Mathers (Gwleidyddiaeth Rhyngwladol); Dr John Follett (SMB).

Staff Gweinyddol y Flwyddyn
Buddugwyr: David Price a Phil Jones (Yr Ysgol Gelf). Cyflwynwyd gan Gemma Western a Kerry-Ann Pimlott (Yr Ysgol Gelf).
Beth ddywedodd y myfyrwyr: ‘Mae’r porthorion yn hapus, yn gwrtais, ac yn gymwynasgar o hyd, a gellid nodi cymaint o achlysuron lle maent wedi cerdded y filltir ychwanegol gyda ni. Mae ganddynt wên a jôc i bawb a carwn yn fawr iddynt dderbyn cydnabyddiaeth am y gwaith gwych y gwnânt yn yr Ysgol Gelf. Gwnânt yr Ysgol yn le braf i fod ac ni chlywais erioed unrhyw un yn dweud gair croes amdanynt.’

Ail Agos: Martin Davies (Gwleidyddiaeth Ryngwladol); Anna Cole (Seicoleg); Rhiannon Evans (Ieithoedd Ewropeaidd).

Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn
Buddugwr: Gemma Western (Yr Ysgol Gelf) Cyflwynwyd gan Jess Leigh
Beth ddywedodd y myfyrwyr: ‘Gweithia Gemma’n galed iawn er mwyn sicrhau’r gynrychiolaeth orau i fyfyrwyr yn yr Ysgol Gelf. Mae’n aelod gweithgar a chydwybodol o’r tîm Cynrychiolaeth Cwrs; mor gyfeillgar, yn wên o glust i glust, ac yn berson cynnes iawn.’

Ail Agos: Will Pryce (angen adran); Rachel Say (angen adran); Alice Wooler (angen adran).

Tiwtor Personol y Flwyddyn
Buddugwr: Dr Jayne Archer (Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol). Cyflwynwyd gan Grace Balchin.
Beth ddywedodd y myfyrwyr: ‘Mae Jane yn aelod rhyfeddol o gefnogol ac agos-atoch o’r adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Dewisa ryngweithio’n uniongyrchol â’r myfyrwyr, gan annog a herio unrhyw syniadau a gyflwynir ger ei bron. Mae ei hymroddiad a’i pharodrwydd i gyfarfod â myfyrwyr y tu allan i oriau gorfodol yn enghraifft o’u hagwedd ddidwyll a charedig tuag at ei swyddogaeth fel tiwtor Prifysgol.’

Ail Agos: Dr Pippa Moore (IBERS); Dr Stephen Atherton (Addysg); Professor Will Haresign (IBERS).

Cysylltiadau Cyflogadwyedd
Buddugwr: Carolyn Parry (Gwasanaethau Gyrfaoedd). Cyflwynwyd gan Mat Keegan
Beth ddywedodd y myfyrwyr: ‘Carolyn yw un o’r aelodau mwyaf ymroddedig o’r staff a ches erioed y fraint o’i hadnabod. Mae ei hangerdd a’u brwdfrydedd yn ddiysgog ac mae’r amser a’r egni y mae wedi rhoi i’r adran wrth ein cynorthwyo gyda chyflogadwyedd wedi bod yn rhagorol. Trwy ei hyder hi y ces innau hyder i ddechrau fy musnes fy hun, rhywbeth na fyddwn wedi medru gwneud heb ei chymorth hi. Ni fedraf feddwl am neb mwy haeddiannol o’r wobr hon.’

Ail Agos: Julie McKeown (Ysgol Reolaeth a Busnes); Dr Mark Smith, (Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear); Megan Williams (Ysgol Reolaeth a Busnes).

Y Wobr Dysgu Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr (PYSM)
Buddugwr: PYSM Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff
Beth ddywedodd y myfyrwyr: ‘Mae’r pwyllgor wedi bod yn gyson dda trwy gydol y flwyddyn, gan osod y safon ar gyfer rhyngweithiad â myfyrwyr yn Aberystwyth. Sicrha’r cyfarfodydd trefnus, cynhwysfawr ac adeiladol fod lleisiau’r myfyrwyr yn cael eu clywed mewn dulliau ystyrlon, gan ddarparu cyfrwng ar gyfer deialog rhwng yr adran a’i myfyrwyr. Erys y swyddogion rhyngweithio yn hawdd mynd atynt ac yn agored i nifer fawr o fyfyrwyr, tra bo’r staff yn gefnogol i’r Pwyllgor ac yn llwyr werthfawrogi ei bwysigrwydd. Heb amheuaeth, mae’r Pwyllgor yn gaffaeliad i’r adran ac i’r Brifysgol gyfan.’

Ail Agos: PYSM Gwleidyddiaeth Ryngwladol Israddedig; PYSM Mathemateg IMAPS; PYSM IBERS Israddedig.

Adran y Flwyddyn
Buddugwr: Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Beth ddywedodd y myfyrwyr: ‘Credaf fod angen canmol yr adran hon am sawl agwedd; safon uchel y staff dysgu, y tiwtoriaid seminarau uwchraddedig rhagorol, y darlithoedd a’r siaradwyr a groesewir gan yr adran, a’r cyfleoedd a ddarperir yn gyson ganddynt. Mae’n amlwg mai dyma un o’r adrannau gorau yn y wlad, gan arwain yn ei maes yn fyd eang. Dylai Gwleidyddiaeth Ryngwladol dderbyn y wobr hon fel cydnabyddiaeth gynhwysol o ymroddiad y staff academaidd a gweinyddol i greu profiad myfyriwr arbennig.’

Ail Agos: Hanes a Hanes Cymru; Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol, ac Amaethyddol.

AU17712