‘Y Ddraig’ yn hedfan

Chwith i'r dde: Dr Bleddyn Huws, Gwenno Edwards, Ffraid Gwenllian, Elin Haf Gruffydd, Llinos Jones ac Efa Gruffudd Jones, Prifweithredwr yr Urdd.

Chwith i'r dde: Dr Bleddyn Huws, Gwenno Edwards, Ffraid Gwenllian, Elin Haf Gruffydd, Llinos Jones ac Efa Gruffudd Jones, Prifweithredwr yr Urdd.

14 Mehefin 2012

Cafodd cylchgrawn llenyddol newydd sydd wedi cael ei greu gan fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o fodiwl maent yn astudio, ei lansio ar ddydd Sadwrn, y 9fed o Fehefin ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Cafodd myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl ‘Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol’ brosiect uchelgeisiol i’w gyflawni y tymor hwn, sef golygu a chyhoeddi rhifyn o gylchgrawn llenyddol Y Ddraig.

Mae’r rhifyn swmpus 117 tudalen yn cynnwys enghreifftiau o waith creadigol myfyrwyr o fwy nag un o adrannau’r Brifysgol ar ffurff straeon byrion, cerddi, darnau o lên meicro, yn ogystal â chyfweliadau ag unigolion diddorol.

Cafodd y cylchgrawn ei lansio ar stondin y Brifysgol ar faes yr Urdd yng Nglynllifon ac roedd yn gyfle i roi sylw i waith to newydd o feirdd a llenorion ifainc sy’n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yr Athro Marged Haycock a Dr Bleddyn Huws sy’n cydlynu’r modiwl. Dywedodd Dr Huws, “Y myfyrwyr eu hunain a fu’n gyfrifol am gomisiynu cyfraniadau ar gyfer y cylchgrawn a nhw fu’n dethol darnau i’w cynnwys a’u golygu. Maent hefyd wedi comisiynu cynllun ar gyfer y clawr.”

“Trwy gydweithio gyda’i gilydd fel tîm, maent wedi meithrin sgiliau pwysig sy’n rhoi cyfle iddynt gymhwyso’r hyn a glywsant mewn darlithoedd a seminarau at brosiect ymarferol a chreadigol fel hwn. Mae wastad angen golygyddion a newyddiadurwyr proffesiynol arnom a all wasanaethu’r wasg a’r byd cyhoeddi yng Nghymru, ac mae gennym yn yr Adran sawl egin newyddiadurwr ac egin olygydd a gafodd gyfle i feithrin ei sgiliau.”

Cynhaliwyd y lansiad yng nghwmni Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, sy’n un o gyn-fyfyrwyr yr Adran Gymraeg.

Graddiodd Efa yn 1993 ac enillodd radd Meistr wedyn am draethawd ar agweddau ar y nofel Gymraeg yn Oes Victoria. Mae ei thad, Heini Gruffudd, a’i chwaer Nona hefyd yn gyn-fyfywryr o’r Adran Gymraeg.

Mae’r Adran yn falch iawn o’r cysylltiad agos sydd ganddi â mudiad yr Urdd gan ei fod yn un o’r sefydliadau sy’n derbyn myfyrwyr o’r Adran ar leoliad profiad gwaith. Mae sawl un o gyn-fyfyrwyr yr Adran sydd, fel Efa ei hun, bellach ar staff yr Urdd.

Gellir archebu copi o gylchgrawn Y Ddraig am £5 drwy gysylltu ag Adran y Gymraeg drwy e-bostio ar cymraeg@aber.ac.uk

AU18912