Gwella addysg plant

Poster y gynhadledd

Poster y gynhadledd

21 Mehefin 2012

Cynhelir cynhadledd ryngwladol dridiau ar wella cydweithio ymhlith gweithwyr proffesiynol ym myd addysg plant, hyfforddiant, gwaith cymdeithasol, gwaith gwirfoddol, llywodraeth ac academia ym Mhrifysgol Aberystwyth o’r 27ain tan y 29ain o Fehefin.

Bydd y gynhadledd a drefnwyd gan Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes y Brifysgol, yn croesawu cyfraniadau gan arbenigwyr o bob cwr o’r byd gyda mwy na 70 papur academaidd yn cael eu cyflwyno.

Ymysg y gwledydd fydd yn cael eu cynrychioli bydd Lloegr, Awstralia, Canada, De Affrica, Belarws, Yr Iseldiroedd, Y Ffindir, Tsiena, Sweden, Iwerddon, Azerbaijan, Portiwgal, Seland Newydd, Groeg, yr Alban a Chymru.

Dyfeisiwyd y Gynhadledd “Byd Plentyn - Gweithio Gyda’n Gilydd at Ddyfodol Gwell” i fframio cysyniadau newydd o ran ymarfer cydweithredol mewn astudiaethau plentyndod yn erbyn newidiadau cymdeithasol, deddfwriaethol a chyfundrefnol o fewn dimensiwn strategol rhyngwladol.

Eglurodd Dr Malcolm Thomas, Cyfarwyddwr yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes; "Mae gostyngiad byd-eang mewn cyllid gan y llywodraeth ynghyd â chynnydd mewn goruchwyliaeth ddeddfwriaethol a newid sefydliadol mewn astudiaethau plentyndod wedi cynyddu’r pwysau ar adnoddau ac yn gyrru'r angen ar gyfer arferion gwaith arloesol a datblygu cydweithio integredig.

"Bydd y gynhadledd yn ystyried enghreifftiau da o gydweithio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Y thema sylfaenol yw manteision cymdeithasol, economaidd a lles cynwysoldeb.”

Ymysg y prif siaradwyr bydd Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews, Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, Prif Arolygydd Estyn, Ann Keane, yr Athro Jouni Välijärvi o Brifysgol Jyvaskyla yn y Ffindir ac Eifion Evans, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Ceredigion.

Gan ganolbwyntio'n bennaf ar gynulleidfa ymchwil addysgol a phroffesiynol, bydd y canfyddiadau yn berthnasol ar draws ystod o ddisgyblaethau, gan gynnwys llunio polisi llywodraeth, gofal cymdeithasol a darpariaeth weithredol o wasanaethau cyhoeddus.

AU20712